Newyddion S4C

Rhyddhau llanc ar fechnïaeth amodol wedi honiad o fygythiadau â dryll

26/04/2024
Heddlu

Mae llanc 15 oed a gafodd ei arestio yn Sir Gâr yn dilyn adroddiadau o fygythiadau honedig â dryll wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Cafodd gwarant ei gweithredu mewn cyfeiriad  yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, yn ystod oriau mân fore Iau, a oedd yn cyfeirio at y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher.

Y gred yw bod y bachgen 15 oed yn frawd i'r ferch 13 oed sydd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri unigolyn mewn ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r bachgen 15 oed a gafodd ei arestio yn Cross Hands yn ystod oriau mân fore Iau, yn dilyn adroddiadau o anfon negeseuon bygythiol yn ymwneud ag Ysgol Dyffryn Aman, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol sy'n ei atal rhag mynd i rai sefydliadau addysgol na Dyffryn Aman na Chwm Gwendraeth. 

"Mae'r fechnïaeth amodol hefyd yn cynnwys cyrffyw, ac yn ei atal rhag cael mynediad heb oruchwyliaeth i'r cyfryngau cymdeithasol."

Ychwanegodd y llu fod yr ymchwiliad i'r honiadau yn parhau, ac eu bod yn apelio ar unrhyw un sydd gan unrhyw wybodaeth a allai eu helpu i gysylltu â nhw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.