Newyddion S4C

Cynnydd mewn achosion cryptosporidium gyda phobl yn derbyn triniaeth ysbyty

Siop Fferm y Bont-faen ar Fferm Marlborough Grange

Mae ymchwiliad i achosion o cryptosporidium ar fferm yn y Bont-faen bellach wedi darganfod 74 o achosion.

Mae'r achosion wedi arwain at 16 o bobl yn gorfod aros yn yr ysbyty am o leiaf un noson meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Oherwydd cyfnod magu'r haint, mae disgwyl y gallai'r nifer yma barhau i gynyddu yn ystod yr wythnos nesaf.

Mae'r fferm wedi rhoi'r gorau i'w holl weithgareddau bwydo anifeiliaid cyhoeddus yn wirfoddol ac mae'n cydweithredu â'r ymchwiliad.

Math o salwch yw cryptosporidium sy'n gallu achosi dolur rhydd, chwydu, twymyn, a chrampiau stumog. 

Mae ŵyn ac anifeiliaid fferm eraill yn gallu lledaenu'r haint.

Dywedodd Su Mably, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i ymchwilio i'r achos hwn. 

"Er bod haint cryptosporidium fel arfer yn ysgafn ac yn clirio ar ei ben ei hun, gall achosi salwch mwy difrifol mewn plant ifanc a phobl â systemau imiwnedd gwan. cyn paratoi bwyd.”

"Os y gwnaethoch ymweld â'r fferm ac yn teimlo'n sâl, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111. 

"Mae'n bosibl i'r haint hwn gael ei drosglwyddo o un person i'r llall, er enghraifft os yw rhywun yn gofalu am aelod o'r teulu sy'n sâl.  

"Mae’n bwysig amddiffyn eich hun drwy olchi eich dwylo’n dda, yn enwedig cyn paratoi bwyd.” 

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.