
Achos Porthmadog: Plismon yn ddieuog o achosi niwed corfforol a thagu dyn
Achos Porthmadog: Plismon yn ddieuog o achosi niwed corfforol a thagu dyn
Mae plismon wedi ei gael yn ddieuog yn Llys y Goron Caernarfon o achosi niwed corfforol a thagu dyn mewn gardd ym Mhorthmadog yn 2023.
Roedd PC Richard Williams, 43 oed, yn wynebu un cyhuddiad o dagu bwriadol ac un cyhuddiad o achosi niwed corfforol i Steven Clark mewn digwyddiad ar ystâd Pensyflog yn y dref ar 10 Mai 2023.
Roedd Richard Williams a'i gydweithiwr PC Einir Williams wedi eu galw i ymateb i honiad o drais domestig ar ddiwrnod y digwyddiad.
Cafodd yr ymosodiad ei ffilmio gan aelod o'r cyhoedd ar y pryd a'i rannu'n eang ar gyfryngau cymdeithasol.
Ar ôl cyfnod o dros pum awr o ystyried, roedd y barnwr Nicola Jones wedi caniatáu i'r rheithgor ddod i benderfyniad mwyafrif - sef 10-2 neu 11-1.
Ar y cyfrif o dagu bwriadol, fe wnaeth y rheithgor ddyfarnu bod Richard Williams yn ddieuog.
Ar y cyfrif o achosi niwed corfforol, fe wnaeth y rheithgor ddyfarnu bod Richard Williams yn ddieuog.
'Siomi'
Mewn datganiad yn ymateb i’r rheithfarn a gyhoeddwyd drwy law ei dwrnai Jasmine Moxey-Butler, dywedodd Steven Clark: “Rydym wedi ein siomi’n llwyr gan y dyfarniad a roddir yn yr achos hwn.”
Ar ran Heddlu Gogledd Cymru, dywedodd Ditectif Brif Gwnstabl Nigel Harrison: “Rydym yn cydnabod penderfyniad y llys bod PC Williams yn ddieuog o ymosod ar ôl gweld y dystiolaeth i gyd yn yr achos hwn.
“Rhaid i swyddogion ddelio gyda gwrthdaro yn ddyddiol sy’n gofyn am wneud penderfyniadau yn y fan a’r lle er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel.
"Mae ymchwiliad annibynnol wedi cael ei gynnal oherwydd y pryder am y lefel o rym a ddefnyddiwyd.
"Cynhaliwyd hwn gan yr IOPC a byddwn nawr yn cydlynu gyda’r IOPC yng nghyswllt unrhyw weithdrefnau camymddwyn posib.”
Mae Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cadarnhau y bydd yn “trafod” gyda Heddlu Gogledd Cymru am unrhyw achos disgyblu posibl yn erbyn PC Williams.
'Perygl'
Dros saith diwrnod yr achos, fe wnaeth y rheithgor weld sawl fideo o ymgais Mr Williams a’i gyd-weithiwr, PC Einir Williams, i arestio Steven Clark, 36 oed.
Dywedodd Mr Williams ei fod yn credu ei fod ef a Ms Williams “mewn perygl” wrth geisio arestio Mr Clark.

Roedd y swyddogion yn arestio Mr Clark mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig yn gynharach yn y dydd, y tu allan i dŷ cyn bartner Mr Clark ar ystâd Pensyflog.
Honnir fod Mr Clark wedi bygwth ei gyn bartner a phoeri tuag ati, a’i fod dan ddylanwad cyffuriau.
Aethant i gyfeiriad arall ar yr ystâd, yn 23 Pensyflog, lle y dywedodd Mr Clark ei fod yno i wneud gwaith garddio.
Fe wnaeth PC Einir Williams a PC Richard Williams geisio arestio Mr Clark, gyda Mr Williams yn rhoi ei law chwith mewn cyffion.
Dywedodd Mr Williams nad oedd Mr Clark yn gwrando ar ei gyfarwyddiadau i ddod â’i fraich dde ar draws ei gorff.
Yna, fe wnaeth Mr Clark ddechrau llefain fel ei fod mewn poen. Dywedodd Mr Clark ei fod wedi anafu’i fraich yn flaenorol.
“Fe wnaeth o sŵn fel fy mod i wedi gwneud rhywbeth i’w fraich," meddai Richard Williams.
"Ond do’n i heb neud unrhyw beth, ro’n i’n dal [y fraich] mewn safle fertigol, heb ei throi.”
Ergydion
Dywedodd Mr Williams fod Mr Clark wedi ceisio ymosod ar PC Einir Williams gyda “thacl rygbi”.
Fe aeth y tri i’r llawr, a dywedodd Mr Williams bod ei fraich dde o gwmpas Mr Clark, ac wedi llithro i fyny fel ei fod yn gafael ynddo gerfydd ei wddf.
“Roedd hynny er mwyn ei gadw ar y llawr a’i stopio rhag ymosod ar Einir. Roedd yn parhau i wrthsefyll yr arést," meddai.
Yna, dywedodd Mr Williams ei fod wedi dyrnu Mr Clark sawl gwaith tra ei fod ar y llawr gyda’i law chwith.
Dywedodd nad oedd wedi defnyddio ergydion o’r fath o’r blaen, mewn dros 21 mlynedd yn ystod ei yrfa fel plismon.
“Mae ergydion tynnu sylw ('distraction strikes') yn cael eu caniatáu," meddai.
"Fe ddefnyddiais fwy nag un ergyd, gan nad oedd gen i ffydd yn fy ngallu i ddyrnu gyda'm llaw chwith gyda digon o rym i dynnu ei sylw.”
Yn ystod yr ymgais, fe ddywedodd Mr Williams y byddai Mr Clark yn cael ei “daflu” (launched) i’r fan heddlu.
Gyda’r swyddogion yn honni bod Mr Clark yn defnyddio’i goesau er mwyn atal ei hun rhag cael ei roi yn y fan, cafodd chwistrell analluogi (incapacitant spray) hefyd ei ddefnyddio ar Mr Clark.
Cafodd ei yrru yn y fan i Orsaf Heddlu Porthmadog, cyn i Mr Clark gael ei drosglwyddo i Ysbyty Gwynedd am asesiad meddygol.
Dywedodd Mr Clark iddo gael anafiadau i’w lygaid, asennau, ei fraich a chleisiau ar ei goesau yn dilyn y digwyddiad.