Carcharu dau ddyn o Abertawe am eu rhan mewn cynllun smyglo £100m o gocên
Mae dau ddyn o Abertawe wedi eu carcharu am 25 a 26 mlynedd am eu rhan mewn cynllun smyglo gwerth £100m o gocên ar gwch pysgota yng Nghernyw.
Mae Jon Williams, 46 o Windmill Terrace, Abertawe, a Patrick Godfrey, 31 o Ffordd Danygraig, Abertawe yn rhan o grŵp o bedwar sydd wedi cael dedfryd o garchar am smyglo cocên.
Fe gafodd y grŵp eu dal gyda mwy na thunnell o’r cyffur Dosbarth A ar fwrdd eu cwch, y Lily Lola, ym mis Medi y llynedd.
Roedd y llong HMC Valiant ar batrôl oddi ar arfordir gogleddol Cernyw, a defnyddiodd gwch bach i ryng-gipio’r Lily Lola.
Roedd Williams, y capten a oedd wedi prynu’r cwch am tua £140,000 ddau fis ynghynt, wrth y llyw, ac roedd Godfrey yn cysgu mewn cadair.
Roedd dyfais electronig ar y cwch hefyd a oedd yn cynnwys negeseuon a chyfarwyddiadau gan drydydd parti.
Roedd Godfrey wedi anfon neges at rywun yn dweud ‘mae angen i ti ddileu popeth ar y ffôn a phaid â'i ddangos i neb’.
Roedd hefyd cofnod ei fod wedi ymchwilio ‘pa mor hir y mae’n ei gymryd i long gyrraedd y DU o Peru’ ar y we.
Cafwyd hyd i ddyfais tracio yn y casgliad cyffuriau a oedd yn gysylltiedig â defnyddiwr yn Ne America.
Cafodd Williams ddedfryd o 26 mlynedd o garchar, ac fe gafodd Godfrey 25 mlynedd.
Fe blediodd y ddau arall, sef Michael Kelly, 45, a Jake Marchant, 27, yn euog cyn yr achos llys, ac fe gawson nhw 21 ac 18 mlynedd o garchar.
Dywedodd comander cangen yr NCA, Derek Evans, eu bod yn gweithio’n “ddi-baid i ymladd yn erbyn bygythiad cyffuriau Dosbarth A”, sy’n “difetha bywydau pobl ac yn dinistrio ein cymunedau”.