O Leonard Cohen i Lithfaen: 20 mlynedd ers recordio’r gân ‘Haleliwia’

Brigyn / Leonard Cohen

Dros gyfnod yr Wŷl, fe fydd y gân Haleliwia yn un o'r caneuon Cymraeg mwyaf poblogaidd i gael ei chwarae a'i chlywed eto eleni.

Ers i’r gân gan Leonard Cohen gael ei recordio yn y Gymraeg gan y band Brigyn yn 2005, fe ddaeth yn glasur Nadoligaidd.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’r dyn sy’n gyfrifol am addasu’r gân wreiddiol  i'r Gymraeg, Tony Llywelyn Roberts, yn dweud bod y neges heddiw'n “llawn mor berthnasol”.

Fe gafodd Newyddion S4C sgwrs gyda Tony ac Ynyr Roberts o’r band Brigyn, er mwyn cael yr hanes y tu ôl i’r gân boblogaidd.

‘I Steddfod Llithfaen neshi sgwennu hi’

Cafodd Hallelujah ei ryddhau’n wreiddiol gan Leonard Cohen yn 1984.

Yn 1991, fe wnaeth y Cymro a chyn-aelod o'r band dylanwadol The Velvet Undergound, John Cale, recordio fersiwn newydd o’r gân, sef y fersiwn sydd wedi dod yn fwyaf adnabyddus yn ddiweddarach – cyn i Jeff Buckley hefyd recordio fersiwn boblogaidd ohoni yn 1994.

Image
Tony
Mab Tony, Ifan Roberts yn canu Haleliwia adref, gyda'i gyfnither Emily Birch, a'i chwaer Alaw yn chwarae'r gitâr (Llun teulu)

Ond i Tony, sydd yn sgriptiwr a chyfarwyddwr ar gyfer rhaglenni teledu a’r theatr, roedd yr ysbrydoliaeth i addasu’r gân wedi dod o le annisgwyl.

“Oedd Ifan y mab yn watchad Shrek drwy’r adeg, ac mae’r gân ar Shrek, ac odd Ifan yn mynd o gwmpas y tŷ yn canu’r gân,” meddai.

“Ond oedd o’n mynd i gymryd rhan yn Steddfod Capel Llithfaen ac isho rwbath i ganu, felly neshi neud geiriau Cymraeg i Haleliwia, iddo fo ddysgu.”

Roedd perfformiad Ifan o’r gân yn Llithfaen wedi dal sylw sawl un, gan gynnwys y delynores Nia Williams, oedd yn chwarae gyda’r band, Brigyn.

“Odd Nia yna ar y noson ac wedyn mi ofynnodd os ‘sa hi’n cael cyflwyno’r gân i’r hogiau a gweld os oeddan nhw isho cyfro hi llu - a dyna naethon nhw," meddai Tony.

Ar ôl derbyn caniatâd Tony, fe benderfynodd Ynyr ac Eurig Roberts, fynd yn syth i Stiwdio Sain yn Llandwrog, Gwynedd, i’w recordio.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ynyr Roberts: “Naethon ni recordio hi yn Rhagfyr 2005, yn sydyn iawn ar nos Sul yn Stiwdio Sain, pan oedd neb i mewn.

“Oedd Sain yn brysur iawn adag hynny, felly dwi’n meddwl oedd hi’n job sydyn iawn rhwng tua saith ag wyth o gloch. Mae’n fersiwn eitha raw achos mae’n fyw. 

Image
Tony Llywelyn Roberts
Tony Llywelyn Roberts

“Pan ti’n recordio cân, ti ddim yn ymwybodol be fysa unrhyw ymateb yn gallu bod.”

Ar ôl cwblhau’r trac gyda threfniant gan Nia, fe wnaeth Ynyr anfon y trac at Dafydd Du, cyflwynydd Radio Cymru ar y pryd.

“Dwi’n meddwl bod o di chwarae fo ar y nos Lun yna, a dwi’n siŵr bod Radio Cymru di chwarae hi bob dydd am weddill mis Rhagfyr,” medd Ynyr.

“Oedd yr ymateb just yn syfrdanol. Oedd o wir yn.”

Ychwanegodd Tony: “O’n i wrth fy modd efo’r gân, oni’n meddwl bod hi’n drefniant hyfryd a wedi o’r dechrau. 

“Gath yr hogia a Nia hwyl dda iawn, iawn arni.”

‘Odd y gân yn bob man’

Dair blynedd yn ddiweddarach yn Rhagfyr 2008, daeth ton arall o sylw i’r gân ar ôl i’r band dderbyn caniatâd gan Leonard Cohen i’w chynnwys ar CD.

Dywedodd Ynyr: “Be dwi’n cofio ydi, gafo’n ni double-page spread yn y Western Mail, oeddan ni ar y newyddion... oedd o just yn ddiwrnod bythgofiadwy mewn ffordd, y diddordeb oedd gan bobl yn y ffaith bod Leonard Cohen di rhoi’r sêl bendith i ni ryddhau’r gân.

“Oedd y gân ym mhobman y Dolig yna yn 2008. Oeddan ni di cael yr hawl ym mis Medi ag ychydig ddyddiau ar ôl i’r CD fynd yn y siopau, nath X Factor gyhoeddi mai Hallelujah oedd sengl yr enillydd eu rhaglen nhw hefyd. 

“Ein ymateb cynta ni oedd ‘o na, pam bod nhw’n neud huna?’ achos oeddan ni’n meddwl bod gen ni gynnyrch eitha unigryw. 

Image
Leonard Cohen
Cafodd Hallelujah ei rhyddhau’n wreiddiol gan Leonard Cohen yn 1984 (Llun: Rama/Wikimedia)

“Ond dwi’n meddwl dyna di’r peth gorau sa di gallu digwydd i’r gân. Oedd hi’n bob man. Ag achos bod geiriau Tony a’r trefniant mor dda, oedd o’n golygu bod y geiriau’n gallu sefyll fyny efo’r hype yna.”

Yn ôl Tony, er bod ei addasiad yn cyfeirio at “Bethlehem” a’r “sêr uwchben”, roedd yn ceisio rhoi ystyr ddyfnach i’r gân gyda’i eiriau.

“Mae'n rhaid mai adag Dolig oedd o, ond o’n i’n benderfynol o beidio creu carol Nadoligaidd mewn ffordd," meddai.

“Tydi o ddim byd yn debyg i’r gwreiddiol, dyna oedd y point ag oni’n trio mynd ar ôl y ffaith na tydi hi ddim yn Nadolig i bawb bob amsar, a mi oeddwn i’n trio gwneud rhyw fath o sylw ar sut oedd pethau yn Israel adeg hynny.

“Oedd pobol yn cael eu dyrnu yna pob dydd, a’u ymosod arnynt, a’r Palesteiniaid yn cael eu trin fel pobol israddol.

“Ugain mlynadd yn ôl oedd hyn a tydi o m’ond wedi gwaethygu ers hynny. Dwi’n meddwl oedd o’n eitha’ amlwg i unrhyw un oedd yn sbïo ar y sefyllfa bod ‘na anghyfiawnderau mawr yn digwydd yna.

“Ond ma’n grêt bod hi’n cael sylw adag Dolig, achos mae’n rhoi sylw i neges sydd eisiau ei ddeud.”

‘Dirdynnol’

Yn ogystal â’r recordiad Cymraeg, mae’r band Brigyn hefyd yn dathlu eu pen-blwydd yn 20 eleni. 

Ar ddiwedd blwyddyn brysur o sioeau ledled Cymru, mae’r band wedi rhyddhau llyfr o’u caneuon ar ffurf cerddorol er mwyn i bobl allu dysgu sut i chwarae’r caneuon.

Image
Brigyn
Mae Brigyn yn dathlu 20 mlynedd eleni

“Un o’r caneuon oeddan ni’n gorfod rhoid yn y llyfr oedd Haleliwia,” ychwanegodd Ynyr.

“Dros yr 20 mlynadd, da ni di cael lot o geisiadau am gael y gân ar brint mewn notation, ac ambell gan arall fel ‘Disgyn wrth dy Draed', gan bobl fysan hoffi chwarae nhw neu canu fo hefo côr. 

"Felly oedd hwnna’n ysgogiad i neud y llyfr, achos bod pobol yn gofyn am gael Haleliwia.”

Daeth y gân i amlygrwydd cenedlaethol unwaith eto yn 2015 gyda pherfformiad gan Gôr Glanaethwy yn rownd derfynol y gyfres Britain’s Got Talent.

Wrth adlewyrchu ar lwyddiant y gân, dywedodd Ynyr: “Mae 'na neges ddirdynnol yn geiriau Tony Llywelyn a dwi just yn falch bod ni di cael yr hawl gan Tony i ganu hi, yr hawl gan Leonard Cohen i ryddhau hi.

“Mae just fel cadwyn o ddigwyddiadau, sydd di neud y siwrna Brigyn yn un ddiddorol dros yr 20 mlynadd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.