Dartiau: Jonny Clayton yn cyrraedd rownd yr 16 olaf ym Mhencampwriaeth y Byd

Jonny Clayton

Mae'r Cymro Jonny Clayton wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf ym Mhencampwriaeth y Byd.

Enillodd 4-3 mewn gêm gystadleuol yn erbyn Niels Zonneveld o'r Iseldiroedd.

Fe wnaeth Clayton daro 11 sgôr o 180 yn yr ornest, sef yr uchafswm mae modd sgorio gyda thair dart.

Bydd yn wynebu Andreas Harrysson o Sweden neu Ricardo Pietreczko o'r Almaen yn rownd yr 16 olaf.

Fe fydd y ddau yna yn herio ei gilydd ym Mhalas Alexandra yn Llundain nos Sadwrn.

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd Clayton, sydd yn rhif 5 ar restr detholion y byd, y bydd angen iddo wella erbyn y rownd nesaf.

"Waw, am gêm. O’n i’n meddwl 'plîs Niels gad i fi ennill y gêm hon'," meddai.

“Os ydw i eisiau mynd yn bell ym Mhencampwriaeth y Byd mae angen i fi wella ar yr ochr sgorio, achos dwi’n bwrw 41, 45 a dwi angen newid hynny.

“Os dwi’n gwneud hynny ac yn parhau i wneud hynny, mae cyfle ‘da fi i fynd yn bell yn y gystadleuaeth.”

Mae Clayton yn gobeithio cael ei gynnwys yn yr Uwch Gynghrair Dartiau yn y flwyddyn newydd.

Y pedwar chwaraewr gorau'n y byd yn ôl y rhestr detholion sydd yn cael eu cynnwys yn awtomatig, gyda'r gorfforaeth ddartiau, y PDC, yn dewis y pedwar arall.

“Bydden i’n dweud celwydd os dwi’n dweud bod fi ddim eisiau chwarae yn yr Uwch Gynghrair," meddai Clayton.

“Dyna’r gystadleuaeth orau a dwi angen profi fy hun ac mae angen i fi wella ac mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd.

“Felly gobeithio byddai’n cael fy ystyried ar gyfer y gystadleuaeth."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.