Dioddefwr ymosodiad yng Nghaerdydd wedi marw yn yr ysbyty
Mae dyn a ddioddefodd ymosodiad yn ardal Cathays o Gaerdydd ddydd Llun wedi marw yn yr ysbyty.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad am ymosodiad yn Stryd Pentyrch am tua 18:15 ar 22 Rhagfyr.
Bu farw'r dioddefwr, Colm Marcus Boston, 37 oed, o'r Mynydd Bychan, ddydd Gwener yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Mae ei deulu'n cael eu cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teulu.
Mae tri dyn wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad.
Mae dyn 51 oed o Fynachdy yn parhau yn y ddalfa. Mae dyn 47 oed o Adamsdown a dyn 60 oed o Cathays wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Dywedodd y Dirprwy Uwch Swyddog Ymchwilio, y Rhingyll Ditectif Lauren Wells, o Heddlu De Cymru: “Mae ein cydymdeimlad diffuant gyda theulu a ffrindiau Colm wrth iddynt ddod i delerau â’u colled drasig.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi i’r ymchwiliad hwn hyd yn hyn a pharhau i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth sydd heb siarad â swyddogion eto i ddod ymlaen.”
Mae swyddogion yn awyddus i dderbyn lluniau teledu cylch cyfyng a chamerâu dashcam o Heol Maindy, Stryd Pentyrch, Heol yr Eglwys Newydd, a Theras Cathays, rhwng 16:00 a 18:30 ar ddiwrnod yr ymosodiad.
Fe allai unrhyw un sydd â lluniau o’r fath gysylltu â’r llu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2500404113.