Aberystwyth: Dyn yn pledio'n euog i ddwyn gwerth £30,000 o nwyddau trydanol

27/12/2025
CEF Aber

Mae dyn 48 oed o Lundain wedi pledio'n euog ar ôl i offer gwerth miloedd o bunnoedd gael eu dwyn o siop drydanol yn Aberystwyth.

Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad yn adrodd bod byrgleriaeth wedi digwydd yn siop CEF Electrical rywbryd rhwng 15:00 ar ddydd Sul 29 Medi a 07.15 ar fore dydd Llun 30 Medi, 2024.

Esboniodd perchennog y siop ei fod wedi cyrraedd yno i agor ei drysau cyn iddo sylwi bod y drws wedi'i falu, a bod y gwifrau a oedd yn gysylltiedig â'r system larwm wedi'u torri.

Roedd gwerth £30,000 o nwyddau wedi eu dwyn, meddai.

Fe ffilmiodd camerâu cylch cyfyng gerbyd yn cyrraedd safle'r siop tua 23:30 y noson gynt ac yn dychwelyd i'r un lle am tua 01:00.

Cadarnhaodd gwiriadau fod y cerbyd yn eiddo i Christopher Cole, 48 oed, o Hackney, Llundain.

Roedd tystiolaeth DNA a gymerwyd o du mewn i ffenestr oedd wedi ei thorri hefyd yn awgrymu bod Christopher Cole yn bresennol yn lleoliad y drosedd.

Fe arweiniodd ymholiadau'r heddlu at arestio Cole gan Heddlu Hampshire yn Rugby, Lloegr, ar ddydd Mercher 19 Tachwedd eleni. 

Cafodd ei gludo i Aberystwyth i gael ei holi.

Cafodd ei gyhuddo o fyrgleriaeth a'i ryddhau ar fechnïaeth amodol. 

Yn gynharach yr wythnos hon, cyfaddefodd i'r drosedd a bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 30 Ionawr.

Dywedodd PC Joe Roberts, y swyddog ymchwilio yn yr achos: “Roedd hon yn drosedd ddifrifol a gyflawnwyd gan ddyn a oedd yn credu y gallai deithio i mewn i’n hardal a thargedu busnes lleol er ei fudd ei hun.

“Mae’r drosedd hon yn ddealladwy wedi cael effaith sylweddol ar y busnes a’i weithwyr, a gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn eu sicrhau na fydd Heddlu Dyfed-Powys yn goddef troseddwyr yn ein hardal. Rydym yn aros yn eiddgar am ei ddedfrydu.”

Llun: Google

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.