Burnham yn ymweld ag Wcráin ar ei daith dramor gyntaf wrth i'r wlad ddathlu annibyniaeth

Andy Burnham

Mae'r Prif Weinidog y DU yn ymweld ag Wcráin ar ei daith dramor gyntaf wrth i'r wlad ddathlu ei diwrnod annibyniaeth.

Fe wnaeth Andy Burnham gyrraedd Kyiv fore Llun a bydd yn cadeirio ei gyfarfod cyntaf o 'glymblaid y rhai sy’n barod i weithredu' - grŵp a gafodd ei sefydlu gan y DU a Ffrainc i gefnogi Wcráin dan ei ragflaenydd, Syr Keir Starmer.

Bydd hefyd yn cymryd rhan yn nathliadau diwrnod annibyniaeth Wcráin ac yn derbyn gwobr ar ran pobl Prydain, i gydnabod cefnogaeth y DU.

Mae disgwyl i Mr Burnham sicrhau pobl Wcráin fod y DU yn parhau i'w cefnogi, gan bwysleisio mai dim ond cryfhau'r gefnogaeth y mae bygythiadau Rwsia.

"Ar 35ain pen-blwydd annibyniaeth Wcráin, ni ddylai fod gan bobl yr Wcráin unrhyw amheuaeth: mae’r DU y tu ôl i chi heddiw, ac am gyhyd ag y bydd angen," meddai Mr Burnham.

"Rwy’n falch o’r cyfraniad y mae ein gwlad wedi’i wneud i Wcráin, ac rwyf am i bobl Wcráin glywed yn uniongyrchol gen i na fydd ein cefnogaeth yn pallu. 

"Wedi’r cyfan, mae diogelwch Wcráin yn ddiogelwch i ni."

'Ni fyddwn yn ildio'

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i ganiatáu i’r cwmni amddiffyn MBDA rannu gwybodaeth gyfrinachol am rannau Prydeinig taflegryn Scalp - sef y fersiwn Ffrengig o daflegryn Storm Shadow y DU.

Mae’r ddau daflegryn yn defnyddio technoleg o Brydain a Ffrainc.

Mae Wcráin a Ffrainc hefyd yn ystyried gwneud taflegrau Scalp yn Wcráin.

Dywedodd Mr Burnham: "Bydd cyfeillgarwch ein dwy wlad yn para’n hirach na rhyfel anghyfreithlon Rwsia. 

"Yn y frwydr ac yn y gwaith o ailadeiladu sydd i ddod, byddwn yn sefyll gydag Wcráin ac yn creu cyfleoedd i bobl yn y ddwy wlad.

"Ni ddylai fod gan Rwsia unrhyw amheuaeth ynghylch ein penderfyniad. Ni fyddwn yn ildio nes bod heddwch cyfiawn a pharhaol wedi’i sicrhau."

Croesawodd Burnham yr Arlywydd Volodymyr Zelensky i’r DU yn ystod ei wythnosau cyntaf yn y swydd.

Yr wythnos diwethaf, cyhuddodd Rwsia’r DU o waethygu’r gwrthdaro’n fwriadol yn dilyn cadarnhad bod dronau a wnaed ym Mhrydain wedi cael eu defnyddio mewn ymosodiadau ar dargedau yn Rwsia.

Dywedodd Rwsia mai po fwyaf y byddai’r Deyrnas Unedig yn ymwneud â’r gwrthdaro, yr "uchaf fydd y pris y bydd yn ei dalu".


 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.