Siop sglodion wedi darparu dros 1,000 o brydau am ddim ar Ddydd San Steffan
Mae un siop sglodion yng Nghaerdydd wedi darparu dros 1,000 o brydau bwyd poeth ar Ddydd San Steffan, a hynny am ddim.
Dyma'r seithfed flwyddyn i siop sglodion Victoria Fish Bar yn yr Eglwys Newydd ddarparu bwyd i weithwyr y gwasanaethau brys, gofalwyr a'r digartref.
Rhwng 10:00 a 13:00 ar y diwrnod fe wnaeth bron i 50 o wirfoddolwyr ddarparu bwyd o'r siop ar draws y ddinas.
Dywedodd perchnogion y siop sglodion, Muhammad a Jawad Nazakat, mai dyma oedd y nifer fwyaf o brydau iddyn nhw ei ddarparu erioed mewn un diwrnod.
“Dydyn ni methu credu'r holl gariad a chefnogaeth gan y gymuned.
“Roeddem wedi dosbarthu 1,070 o brydau ar draws Caerdydd, y mwyaf i ni ei ddosbarthu erioed ar un diwrnod.
“Ni fyddai hynny'n bosib heb ein gwirfoddolwyr anhygoel sydd mor garedig yn rhoi eu hamser i ddosbarthu bob dim.
“Hefyd roeddem wedi dosbarthu nwyddau gan gynnwys dillad, bwyd sych a chynnyrch iechyd i’r rhai sydd yn ddigartref."
Fe gafodd prydau eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, Ysbyty Llandochau, Canolfan Huggard a sawl lleoliad arall gan gynnwys gorsafoedd ambiwlans a thân.
Nid dyma'r unig waith mae Victoria Fish Bar yn ei wneud yn y gymuned yn yr Eglwys Newydd.
Maen nhw eisoes wedi codi miloedd i elusennau lleol, ac yn bwriadu gwneud hynny eto yn y dyfodol.
Byddai'r ymdrechion i gefnogi gymaint o bobl ddim yn bosib heb gefnogaeth y gymuned, meddai Muhammad Nazakat.
“Hoffwn estyn diolch enfawr i gymuned Caerdydd am eich cefnogaeth barhaol, yn enwedig yn yr Eglwys Newydd," meddai.
“Rydych chi mor hanfodol i’r gwaith rydym yn ei wneud a hebddo chi, ni fyddai hyn yn bosib.
“Eleni yw ein blwyddyn fwyaf llwyddiannus o bell ffordd, ac nid yw geiriau’n ddigon i ddangos ein diolch i chi.
“Chi yw’r rheswm rydym yn gwneud pethau fel hyn, ac rydym yn gobeithio bydd yr ymdrech hon gan y gymuned yn parhau am flynyddoedd i ddod.”