Cynnal munud o dawelwch er cof am ddyn o Bwllheli a fu farw ger Porthmadog
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal mewn gêm bêl-droed rhwng dau glwb o Wynedd brynhawn Sadwrn er cof am ddyn a fu farw ar gyrion Porthmadog wythnos yn ôl.
Bu farw Mathew Hardy, 34 oed, a Daniel Atkinson, 40 oed, o Flaenau Ffestiniog, yn y gwrthdrawiad am 21:30 ar 20 Rhagfyr.
Roedd Mr Hardy'n arfer chwarae i Glwb Pêl- droed Pwllheli, a chyn eu gêm yn erbyn Porthmadog ddydd Sadwrn fe ddaeth y chwaraewyr a chefnogwyr y ddau glwb at ei gilydd mewn munud o dawelwch.
Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Clwb pêl-droed Pwllheli: "Cyn y gêm yn erbyn Porthmadog heddiw, safodd y clwb, y chwaraewyr a’r cefnogwyr mewn distawrwydd er cof am ein cyn-chwaraewr annwyl, Mathew Hardy, a gollwyd yn llawer rhy ifanc.
"Roedd Mathew yn rhan o deulu’r clwb, ac roedd hefyd yn fab i Hardy’s Garage, un o’n prif noddwyr sydd wedi bod yn gefn i ni dros y blynyddoedd diwethaf.
"Hoffem hefyd ddiolch i Glwb Pêl-droed Porthmadog am eu caredigrwydd a’u cefnogaeth wrth ddarparu ar gyfer y deyrnged hon, ac am ddarparu blodau fel arwydd o barch.
"Mae ein calonnau gyda theulu Mathew, ei ffrindiau, a phawb yn Hardy’s. Ni fydd Mathew byth yn cael ei anghofio."
Prif Lun: Clwb Pêl- droed Pwllheli/Llun teulu