Newyddion S4C

Mwy o ferched 'yn cael problemau â'u defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol' na bechgyn

Merch ar ffon

Mae gan ferched oed ysgol uwchradd gyfraddau llawer uwch o broblemau sy'n deillio o'u defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol na bechgyn yng Nghymru, yn ôl ymchwil.

Roedd y gwahaniaeth ar ei amlycaf ym mlwyddyn 9 a 10, lle’r oedd un o bob pump o ferched 13-15 oed yn dweud bod eu defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn achosi problemau iddyn nhw o’i gymharu ag un o bob deg bachgen.

Dadansoddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd ddata o arolwg iechyd a lles myfyrwyr ysgolion uwchradd, Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion 2023.

Roedd yr arolwg yn holi pobl ifanc rhwng 11 a 16 oed am eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol, ac os oedden nhw wedi peidio gwneud gweithgareddau eraill er mwyn bod ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd 21% o ferched blwyddyn 10 ac 20% o flwyddyn 9 wedi dweud fod eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol yn broblemus (problematic).

10% o fechgyn blwyddyn 9, a 9% o flwyddyn 10 oedd wedi dweud yr un fath.

Y ffigwr cyffredinol ar gyfer Cymru yw 17% ar gyfer merched a 9% ar gyfer bechgyn.

Mae’r ymchwil yn dangos hefyd fod gwahanol sefyllfaoedd economaidd y teuluoedd yn cael effaith ar y ffigyrau.

Roedd 20% a 19% o ferched o gartrefi incwm isel a chanolig wedi dweud bod eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol yn broblemus, o’i gymharu â 12% a 10% o fechgyn.

'Nifer pryderus'

Dywedodd Dr Emily van de Venter, ymgynghorydd gwella iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, eu bod wedi gweld “llawer o drafodaeth am y defnydd problemus o gyfryngau cymdeithasol gan bobl ifanc yn ystod y misoedd diwethaf.

“Gall y cyfryngau cymdeithasol gynnig manteision o gysylltedd gwell, ond mae nifer pryderus o bobl ifanc yn nodi effeithiau negyddol ar eu perthnasoedd, eu diddordeb mewn hobïau ac anawsterau wrth gyfyngu ar eu hamser yn eu defnyddio.”

Ychwanegodd y gallai diffodd hysbysiadau, osgoi mynd â dyfeisiau i mewn i ystafelloedd gwely a pheidio â’u defnyddio cyn amser gwely helpu i gyfyngu effeithiau’r cyfryngau cymdeithasol. 

Pwysleisiodd fod hynny’n bwysig iawn ar gyfer iechyd meddwl a lles y bobl ifanc.

Ychwanegodd Dr Kelly Morgan, cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, fod yr holiadur yn rhoi “dealltwriaeth o sut mae pobl ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac archwilio sut mae profiadau'n amrywio ar draws gwahanol grwpiau.”

“Mae hyn yn caniatáu inni feithrin dealltwriaeth llawer cyfoethocach o sut mae'r mater hwn yn ymwneud ag ymddygiadau iechyd ehangach,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.