Dyfodol dwy ysgol wledig yn Sir Conwy yn y fantol
Mae Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Conwy’n ceisio caniatâd i ymgynghori ar ddyfodol dwy ysgol gynradd wledig yn y sir.
Yn yr wythnosau i ddod, bydd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau a’r Cabinet yn ystyried adroddiadau am ddyfodol Ysgol Ysbyty Ifan ac Ysgol Betws-y-Coed.
Y cam cyntaf yw ymgynghoriad ffurfiol, dan God Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Mae nifer y disgyblion yn y ddwy ysgol wedi bod yn "gostwng yn raddol" dros y chwe mlynedd ddiwethaf meddai'r cyngor, ac mae swyddogion yn rhagweld y bydd y lefel hon yn cael ei chynnal am y bum mlynedd nesaf.
Mae gan Ysgol Ysbyty Ifan le i dderbyn 40 o ddisgyblion, a 14 o ddisgyblion sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd.
Y dyraniad refeniw cyffredinol ar gyfer Ysgol Ysbyty Ifan ym mlwyddyn ariannol 2025/26 oedd £242,368, sy'n cyfateb i gost o £15,637 fesul disgybl.
Ar gyfartaledd, mae’r swm yn £5,148 fesul disgybl drwy'r sir.
Mae gan Ysgol Betws-y-Coed le i dderbyn 100 o ddisgyblion, ac mae 14 o ddisgyblion ar y gofrestr.
Dywed y cyngor ei bod yn "bwysig nodi bod Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion, ac mae gofyn i’r Cyngor ddangos cyfiawnhad cadarn dros wneud hynny ar ôl ystyried pob dewis posib arall."
Os caiff y cais ei gymeradwyo, mae disgwyl i’r ymgynghoriadau gychwyn yn y mis nesaf, a chaiff yr ymatebion eu cyflwyno i’r Cynghorwyr eu hystyried y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg Conwy, y Cynghorydd Aaron Wynne: “Mae’r ymgynghoriad hwn yn gam angenrheidiol er mwyn sicrhau ein bod yn ceisio barn cymuned yr ysgol.
"Bydd yn sicrhau bod proses dryloyw ar waith i alluogi cymunedau i rannu eu barn.”