Marwolaeth Brymbo: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

Brymbo

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi fod dyn 50 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yn ardal Brymbo ger Wrecsam wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.  

Aeth swyddogion i dŷ ym Mryn y Ffynnon ddydd Iau yn dilyn pryderon am les dyn, am nad oedd unrhyw un wedi ei weld ers sawl diwrnod.

Cafodd y dyn 46 oed ei ddarganfod yn farw yn y cartref tua 18.00.

Mae’r crwner a theulu’r dyn sydd wedi marw wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney: "Rydym yn deall y gallai’r digwyddiad hwn achosi pryder yn y gymuned leol, a hoffwn sicrhau’r cyhoedd bod presenoldeb amlwg yr heddlu yn yr ardal.

"Fel rhan o’n hymholiadau, rydym yn apelio at unrhyw un a oedd yn ardal Bryn y Ffynnon fore Sul 21 Mehefin ac a allai fod wedi gweld neu glywed unrhyw beth anarferol i gysylltu â ni. 

"Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod â lluniau teledu cylch cyfyng, lluniau cloch drws neu dash-cam o’r ardal ar y diwrnod hwnnw.

"Mae fy meddyliau’n parhau gyda theulu’r dyn yn ystod yr amser anodd hwn."

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 0099798.

Llun: Google


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.