Rheolwr Casnewydd Christian Fuchs yn gadael y clwb
Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi cyhoeddi nos Sadwrn bod eu rheolwr Christian Fuchs wedi penderfynu gadael ei rôl.
Cafodd ei benodi gan yr Alltudion fis Tachwedd 2025, gan olynu David Hughes a gafodd ei ddiswyddo.
Mewn datganiad, dywedodd y clwb: "Yn ystod ei gyfnod yn Rodney Parade, llwyddodd Christian i sicrhau fod Casnewydd yn goroesi yn Adran Dau, gan alluogi'r clwb i aros yng nghynghrair Lloegr ddiwedd tymor 2025-26.
"Mae pawb yng Nghlwb Pêl-droed Casnewydd yn dymuno diolch i Christian am ei waith caled, ymrwymiad a'i broffesiynoldeb yn ystod ei gyfnod gyda'r clwb.
"Mae'r clwb yn dymuno pob llwyddiant a hapusrwydd i Christian yn y dyfodol."
Ar ddiwrnod olaf y tymor, arweiniodd Fuchs dîm Casnewydd i fuddugoliaeth ddramatig 2-1 yn erbyn Barrow, gan osgoi syrthio o'r gynghrair bêl-droed.
Cyn dod yn rheolwr, roedd Fuchs - sy'n dod o Awstria - yn aelod o dîm enwog Caerlŷr a enillodd Uwch Gynghrair Lloegr yn 2016.
Mae'r cyhoeddiad yn golygu fod Casnewydd yn edrych am eu pedwerydd rheolwr mewn ychydig mwy na dwy flynedd.