'Rhywbeth arbennig': Gwaddol Cymru yn EURO 2016 'yn parhau bob dydd'
'Rhywbeth arbennig': Gwaddol Cymru yn EURO 2016 'yn parhau bob dydd'
O berfformiadau ar y cae i arddangos diwylliant a'r Gymraeg oddi ar y cae, mae gwaddol EURO 2016 i Gymru “yn parhau bob dydd”.
Dyna farn Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes a'r Prif weithredwr, Noel Mooney wrth drafod yr haf hanesyddol hwnnw gyda Newyddion S4C, union ddegawd yn ôl.
Gyda chymaint o Gymry yn falch o weld Cymru yn cystadlu yn yr Ewros, roedd Chris Coleman a'i garfan wedi mynd yn llawer pellach yn y gystadleuaeth na'r disgwyl, gan gyrraedd y pedwar olaf.
Cristiano Ronaldo a Phortiwgal rwystrodd Cymru rhag cyrraedd rownd derfynol prif gystadleuaeth, cyn i Bortiwgal guro Ffrainc yn y rownd derfynol.
Ar ôl EURO 2016, fe wnaeth Cymru gymhwyso ar gyfer EURO 2020 a chyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd.
Fe ddechreuodd popeth yn Ffrainc 10 mlynedd yn ôl, ac wrth edrych yn ôl ar gyfnod y tîm cenedlaethol yno, mae Ian Gwyn Hughes yn dweud ei fod yn teimlo fel ddoe wrth ddathlu'r pen-blwydd arbennig.
"Tan 'leni oedd yn teimlo fel falle naw mlynedd yn ôl fyddai fo ynde, ond deng mlynedd. Ydi mae'n teimlo fel ddoe rwan," meddai.
"A ma' gymaint o atgofion yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen. Felly mae 'di dod â'r holl beth yn fyw eto, nid jyst gan y chwaraewyr, ond hefyd gan y cefnogwyr.
"Y gêm gynta' yn Bordeaux, y daith i Bordeaux a gweld miloedd o grysau coch yn y stadiwm. Dwi'n cofio cerdded mewn 'na ar ochr y cae ac edrych o gwmpas, enwedig o ystyried o ble o'n i wedi dod mewn cyn lleied o amser. Roedd hwnna jyst yn deimlad anhygoel."
Bellach yn brif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), roedd Noel Mooney yn gweithio i UEFA adeg EURO 2016.
Rownd yr wyth olaf yn erbyn Gwlad Belg oedd y gêm gyntaf iddo ei gwylio yn y gystadleuaeth honno.
Dywedodd ei fod yn gwybod bod "rhywbeth arbennig" yn digwydd ym myd pêl-droed Cymru'r noson honno.
"Y gêm gyntaf wnes i ei gweld oedd yn Lille yn erbyn Gwlad Belg, ac roedd y cysylltiad rhwng y chwaraewyr a'r Wal Goch yn drawiadol," meddai.
"Roedd yn anhygoel, y hetiau bwced, yr holl egni yn y lle, roeddech chi'n gwybod y noson honno bod rhywbeth arbennig yn digwydd.
"Dwi'n cofio meddwl, 'dwi'n gobeithio eu bod nhw'n adeiladu ar hyn a chreu gwaddol', ac yn sicr mae hynny wedi cael ei gyflawni."
Mae dros 120,000 o chwaraewyr cofrestredig yn chwarae pêl-droed yng Nghymru erbyn hyn, y nifer fwyaf mewn unrhyw gamp yng Nghymru.
Ymysg y rheiny mae 20,000 o ferched, sef y nifer fwyaf erioed yng Nghymru.
'Llwyfan'
Roedd Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn awyddus i ddangos bod Cymru yn wahanol i Loegr, a bod gan y wlad ei hiaith a'i diwylliant ei hun.
Felly fe benderfynodd e a'i gydweithwyr sicrhau bod hynny'n amlwg oddi ar y cae yn ystod cynadleddau'r wasg ac mewn digwyddiadau gwahanol.
Er nad oedd hyn yn rhywbeth newydd, roedd gan Gymru'r "llwyfan" bellach i arddangos ei hiaith a'i diwylliant.
"Ddaru ni benderfynu a mae'n gyfle i ni ddangos bod gennym ni iaith yn hunain fod gennym ni ddiwylliant ein hunain, a naethon ni hynny mewn cynhadledd i'r wasg gyda phawb oedd yn gallu siarad Cymraeg," meddai Ian Gwyn Hughes.
"Y bwriad oedd normaleiddio, dangos i bawb, dwi'n credu be o'dd yn wahanol tro yna, dyna'r tro cynta i ni gael y cyfle ar y llwyfan yna.
"O'dd o'n gyfle i ni ddangos fod yr iaith Gymraeg yn iaith fyw fodern, bod pobl yn siarad yr iaith yn hyderus yn cyfathrebu yn yr iaith.
"Rhwng Joe Allen, Aaron Ramsey, Ben Davies, David Vaughan, Owain Fôn Williams a Osian Roberts... o'dd o ddim yn cael ei guddio ond yn cael ei wneud yn naturiol."
Ychwanegodd Noel Mooney fod defnydd y Gymraeg yn rhan bwysig o waddol EURO 2016 i Gymru, ac wedi arwain at Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn dylanwadu ar ddiwylliant a pholisi ledled Cymru.
"Ledled Cymru, rydym wedi gweld y buddion y tu hwnt i'r cae pêl-droed," meddai.
"Yn nhermau dylanwad CBDC o ran polisi cyhoeddus, dylanwadu ar werthoedd cymdeithasol fel cynaliadwyedd, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant, hyrwyddo'r iaith Gymraeg a phethau eraill.
"Mae gwaddol 2016 yn parhau bob dydd, bob un diwrnod, ac mae pobl allan yna yn gyrru twf pêl-droed Cymru.
"Yn nhermau cenedl yn sefyll ar ei thraed ei hun ac yn mynegi hunaniaeth, yn amlwg mae'n sefyllfa gymhleth yma oherwydd y Deyrnas Unedig ac ati.
"Ond gallwch ddefnyddio chwaraeon i ddangos bod Cymru fel cenedl yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun ac yn gallu herio gwledydd gorau'r byd ar unrhyw lefel."
Beth nesaf?
Wrth edrych ymlaen, bydd Cymru yn un o'r gwledydd a fydd yn cynnal EURO 2028, gyda'r gêm agoriadol yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd.
Hefyd, mae Cymru yn gobeithio cynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd y menywod 2035 ar y cyd â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Gyda’r llygaid yn troi at gyfle nesaf Cymru i gynnal prif gystadleuaeth, mae Noel Mooney yn credu bod cynnal EURO 2028 yn gyfle i gael mwy o bobl yn ymwneud â phêl-droed yn ein gwlad.
"Mae EURO 2028 yn cynnig llwyfan anhygoel i ni," meddai.
"Mae gennym chwe phrif gêm yn dod i Gaerdydd o flaen 70,000, ac mae'n gyfle nid yn unig i Gaerdydd ond ledled y wlad i arddangos ein gwerthoedd.
"Hefyd i drafod twf pêl-droed Cymreig a chael mwy o bobl yn ymwneud â'r gamp yma."