Darganfod corff dyn ifanc mewn afon yn Amwythig

Afon Hafren, Amwythig

Mae corff dyn 22 oed wedi ei ddarganfod mewn afon yn Amwythig, ar ôl adroddiadau iddo fynd i drafferthion yn ystod y gwres eithafol.

Y gred yw mai fe yw'r trydydd person i farw yn y Deyrnas Unedig, ar ôl mynd i'r dŵr yn ystod y tywydd eithriadol o boeth diweddar.   

Mae'r ardal o amgylch glannau'r afon wedi ail agor ddydd Sadwrn wrth i'r gwaith chwilio ddod i ben. 

Mae'n debyg i Mr Leach fynd i drafferthion yn yr afon ddydd Gwener.  

Yn y cyfamser, mae plismyn a oedd yn chwilio am fachgen 15 oed a gafodd ei weld ddiwethaf ar bwys llynnoedd ger Southamton bellach wedi dod o hyd i gorff.

Dywedodd Heddlu Hampshire bod teulu'r bachgen yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.  

Ddydd Mercher, cafodd corff dyn 50 oed ei ddarganfod ar draeth Aberafan ger Port Talbot, ar ôl iddo fynd i drafferthion tra'n nofio yn y môr. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r traeth am 16.25 wedi adroddiadau bod dyn angen cymorth.

Cafodd Gwylwyr y Glannau, yr Ambiwlans Awyr a pharafeddygon eu hanfon yno.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, roedd y dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi marw yn y fan a'r lle.

Yn ystod y tywydd poeth fis Mai eleni, bu farw o leiaf 15 o bobl yn y Deyrnas Unedig, y mwyafrif yn blant, tra'n nofio mewn dŵr agored.   

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.