Starmer yn cefnogi'r Canghellor Rachel Reeves ar ôl 'camgymeriad' rhentu eiddo
Mae Syr Keir Starmer wedi dweud nad oes angen cynnal ymchwiliad i gyfaddefiad y Canghellor, Rachel Reeves iddi dorri rheolau wrth rentu ei chartref teuluol.
Rhoddodd y Prif Weinidog ei gefnogaeth lawn i Ms Reeves, ar ôl ymgynghori â'i gynghorydd moeseg annibynnol, Syr Laurie Magnus.
Cyfaddefodd y Canghellor i Syr Keir nad oedd hi wedi cael y drwydded rhentu oedd yn ofynnol ar gyfer ei chartref yn ne Llundain pan symudodd i Rhif 11 Downing Street ar ôl i Lafur ennill yr etholiad.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, ymddiheurodd yn "ddiffuant" am ei "gwall anfwriadol" o beidio â chael y drwydded, a ddaeth i'r golwg wedi ymchwiliad gan The Daily Mail.
Datgelodd llythyrau rhwng y Prif Weinidog a Ms Reeves eu bod wedi cyfarfod i drafod y mater nos Fercher, ar ôl i'r mater ddod i'r amlwg.
Dywedodd Ms Reeves wrth y Prif Weinidog nad oedd hi a'i theulu "yn anffodus" yn ymwybodol bod angen trwydded yn eu hardal benodol o fwrdeistref Southwark yn Llundain.
Mae Cyngor Southwark yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n rhentu eu heiddo mewn rhai ardaloedd, i gael un o'r trwyddedau cyn eu bod yn gosod eu heiddo.
Gall peidio â gwneud hynny arwain at erlyniad neu ddirwy.
Cyngor gan asiant
Y gred yw bod y Canghellor wedi dibynnu ar gyngor gan asiant gosod, a ddywedodd y byddai'n cynghori a oedd angen trwydded yn yr achos yma.
Dywedodd Ms Reeves wrth Syr Keir: “Roedd hwn yn gamgymeriad anfwriadol. Cyn gynted ag y daethpwyd i'm sylw, fe wnaethom gymryd camau ar unwaith ac rydym wedi gwneud cais am y drwydded.”
Ychwanegodd: “Rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant am y camgymeriad hwn a byddwn yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.”
Yn ei ateb, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi ymgynghori â'i gynghorydd annibynnol Syr Laurie, gan ychwanegu: “Mae wedi fy nghynghori, mewn perthynas â'ch methiant anfwriadol i sicrhau'r drwydded briodol ar gyfer eich eiddo rhent – ac yng ngoleuni eich camau prydlon i unioni'r sefyllfa, gan gynnwys eich ymddiheuriad – nad oes angen ymchwiliad pellach.
“Mae'r Cod Gweinidogol yn ei gwneud yn glir, mewn rhai amgylchiadau, fod ymddiheuriad yn ddatrysiad digonol. Mae'n bwysig bod pob gweinidog yn gallu cydnabod lle maent yn ystyried eu hunain wedi syrthio islaw'r safonau a ddisgwylir ganddynt.
“Rwy'n fodlon y gellir dod â'r mater hwn i ben yn dilyn eich ymddiheuriad.”
Daw penderfyniad Syr Keir i gefnogi Ms Reeves lai na mis cyn y Gyllideb, lle mae disgwyl y bydd yn rhaid iddi wneud penderfyniadau ariannol anodd.