Dyn wedi marw a thri wedi eu hanafu mewn damwain hofrennydd

Ings Lane.jpg

Mae dyn 70 oed wedi marw a thri arall wedi eu hanafu mewn damwain hofrennydd yn Doncaster.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gae yn ardal Bentley am tua 10:15 fore Iau. 

Roedd yr hofrennydd wedi dechrau ei daith o faes awyr Retford Gamston yn Sir Nottingham ychydig cyn iddo blymio i'r ddaear. 

Fe wnaeth y peilot 41 oed, a dau oedd yn teithio yn yr hofrennydd, dynes 58 oed a phlentyn 10 oed, ddioddef mân anafiadau yn ôl yr heddlu.

Mae ymchwiliad ar y cyd wedi ei lansio gyda'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) a Heddlu De Sir Efrog.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gary Magnay: "Mae ein meddyliau gyda theulu ac anwyliaid y dyn fu farw yn y digwyddiad trasig yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.