'Dyw bywyd ddim drosodd': Profiad menyw o Sir Gâr o gael strôc yn ifanc
Mae menyw ifanc a gafodd strôc yn ei hugeiniau cynnar yn dweud bod angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol o'r cyflwr.
A hithau'n dioddef o'r cyflwr hirdymor lwpws, fe gafodd Cari Seren o Gaerfyrddin strôc yn 23 oed ym mis Chwefror 2022.
Mae lwpws yn effeithio ar imiwnedd y corff ac mae'n gallu achosi poenau yn y cyhyrau, brech ar y croen a blinder.
Yn ôl astudiaethau, mae lwpws hefyd yn gallu cynyddu'r risg o strôc, yn enwedig ymhlith pobl o dan 50 oed.
"Oedd e'n sioc mawr ag o'n i methu credu'r peth," meddai wrth siarad ar raglen Prynhawn Da ar S4C.
"Pan ti'n huno lan a methu symud un ochor o dy gorff, ma fe'n rhyfedd."
Fe wnaeth Cari ddechrau teimlo'n sâl ym mis Rhagfyr 2021, gan gael diagnosis o lwpws ym mis Ionawr 2022.
Fis yn ddiweddarach fe gafodd strôc ac roedd yn rhaid iddi gael triniaeth yn yr ysbyty am dros fis.
"O'n i'n gorwedd yn y gwely yn yr ysbyty yn teimlo fel bod bywyd wedi troi ben i waered," meddai.
"Dyw e [strôc] ddim yn gyffredin iawn, ond ma fe'n digwydd yn fwy na beth mae pobl yn disgwyl."
'Dyw bywyd ddim drosodd'
Yn ôl y Gymdeithas Strôc, gall strôc effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran.
Er fod pobl ifanc yn llai tebygol o gael strôc, mae tua 10-15% o achosion mewn oedolion rhwng 18 a 50 oed.
Ar ôl gadael yr ysbyty dros dair blynedd yn ôl, roedd yn rhaid i Cari ddysgu sut i ddefnyddio ei braich a'i choes dde eto.
"O'n i'n teimlo rhyddhad i ddechra' pan des i mas, ond wedyn nath realiti fwrw bod bywyd ddim yn mynd i fod yr un peth," meddai.
"Mae'r goes wedi dod nôl yn eitha' da ond dyw'r fraich ddim cystal yn anffodus, er gymaint o physio fi'n neud i drio cael fe'n ôl."
Ond does dim am rwystro Cari rhag gwneud yr hyn mae hi'n ei fwynhau.
"Fi'n cael kayakio nawr, mae gen i ddyfais i roi rownd fy llaw fel bo' fi'n gallu dal â'r paddle," meddai.
"Fi 'di ffeindio diddordebau newydd hefyd fel paentio a fi 'di gorfod dysgu i sgwennu a gwneud popeth efo llaw chwith."
Ychwanegodd: "Dyw bywyd ddim drosodd pan i chi'n cael rhywbeth fel hyn.
"Dyna be o'n i isho gweld oedd rhywun ifanc arall i weld fel ysbrydoliaeth."