Adfer hen enw Cymraeg ar warchodfa natur yng Ngwynedd

Spinnies

Mae hen enw hanesyddol Cymraeg wedi ei adfer i warchodfa natur yng Ngwynedd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi cyhoeddi y bydd ei gwarchodfa natur ger Tal-y-bont, Bangor, unwaith eto’n cael ei hadnabod gan ei henw Cymraeg hanesyddol, 'Llyn Celanedd', gan ddisodli'r teitl mwy diweddar 'Spinnies Aberogwen'. 

Mae'r penderfyniad yn "anrhydeddu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y safle" ac yn cyd-fynd â pholisi'r Ymddiriedolaeth o adfer enwau lleoedd traddodiadol Cymraeg lle bo'n briodol meddai'r sefydliad.

Mae'r penderfyniad yn adlewyrchu polisïau presennol yr Ymddiriedolaeth sef, lle mae eiddo yn cael ei adnabod o dan enw Saesneg, bydd yr Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i bennu a oes enw Cymraeg arall yn bodoli a fyddai'n fwy priodol. 

Mae gwybodaeth lenyddol a daearyddol hanesyddol yn awgrymu mai ‘Llyn Celanedd’ oedd y pwll olaf yn llwybr troellog Afon Ogwen cyn iddi gael ei sythu yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gwarchodfeydd Natur, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: “Mae’n fraint gallu cefnogi adfer elfen o'n diwylliant a'n hetifeddiaeth leol, yn enwedig enw lle sy'n dal hanes amgylcheddol ein hamgylchfyd.” 

Safle hanesyddol

Mae'r enw ‘Llyn Celanedd’ yn cyfieithu i ‘Pool of Dead Bodies’, atgof trawiadol o'i hanes. Yn ystod y Canol Oesoedd, cludwyd cyrff aelodau marw o deulu'r Penrhyn ar gwch o Lyn Celanedd, ar draws Afon Menai, i fan claddu arbennig yn Llanfaes ar arfordir Ynys Môn. 

Wedi’i sefydlu tua 800 o flynyddoedd yn ôl, roedd y fynwent hon wedi’i chadw ar gyfer aelodau teulu brenhinol Gwynedd a theuluoedd bonheddig eraill y deyrnas. Ymhlith y rhai a gladdwyd yno roedd Siwan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), ac Elinor, gwraig Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf). 

Dywedodd Frances Cattanach, Prif Swyddog Gweithredol, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: “Ein polisi yw, lle bo eiddo ag enw Saesneg, y bydd yr Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i bennu a defnyddio ei enw Cymraeg. 

"Rydym ni wedi bod yn ffodus gyda'r safle hwn, gan fod ymchwil wedi darganfod yr enw 'Llyn Celanedd'. Byddwn yn mabwysiadu dull cam wrth gam i weithredu'r newid enw er mwyn sicrhau nad ydym yn gwario arian yn ddiangen. 

"Rydym ni’n hynod ofalus gyda’n cronfeydd gwerthfawr a bydd unrhyw newidiadau i fyrddau gwybodaeth, taflenni a deunydd arall, yn cael eu gwneud pan fydd angen ail-argraffu pethau, neu drwy ddefnyddio cronfeydd y gellir ond eu defnyddio ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â’r iaith Gymraeg.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.