'Methiannau sylweddol' gan ddau gyngor i gwynion tenantiaid am leithder

Michelle Morris

Roedd "methiannau sylweddol" mewn ymateb dau gyngor sir yng Nghymru i gwynion gan denantiaid tai cymdeithasol am leithder a llwydni, yn ôl ombwdsmon.

Dywedodd swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru eu bod wedi ymchwilio i gwynion yn erbyn Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir y Fflint.

Roedd y cwynion yma wedi eu cyflwyno gan denantiaid tai cymdeithasol am leithder a llwydni yn eu cartrefi, yn ôl canfyddiadau dau adroddiad newydd.

'Effaith ddinistriol'

Mae'r adroddiad cyntaf yn nodi bod Cyngor Caerdydd wedi methu sawl cyfle dros bron i bedair blynedd i ymchwilio'n briodol ac i ddatrys achosion gollyngiad dŵr, lleithder a llwydni helaeth, gan gael "effaith ddinistriol" ar yr achwynydd, Ms C a'i theulu.

Mae'r ail adroddiad yn ymwneud â methiannau gan Gyngor Sir y Fflint i ymateb yn briodol i adroddiadau niferus am leithder a llwydni, gan adael y tenant Miss Y a'i phlant i fyw am bum mis mewn "amodau annerbyniol".

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn "ymddiheuro’n ddiamod" a'u bod eisoes wedi cyflwyno rhaglen wella i fynd i'r afael â chwynion.

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Gyngor Sir y Fflint.

Dywedodd Michelle Morris yr Ombwdsmon bod amodau byw o'r fath yn cael effaith "ddinistriol" ar fywydau tenantiaid.

"Dylai cartref fod yn lle heddychlon a diogel, ond i'r bobl a ddaeth â'r cwynion hyn atom, daeth eu cartrefi yn berygl," meddai.

"Mae effeithiau lleithder a llwydni ar iechyd wedi'u dogfennu'n dda, ond mae eu heffaith ar fywyd teuluol yr un mor ddinistriol."

Ychwanegodd: "Rwy'n gobeithio y bydd profiadau Ms C a Miss Y yn atgoffa landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru o'r effeithiau dynol a allai fod yn ddinistriol o ganlyniad i ymatebion hwyr ac annigonol i adroddiadau am ddiffyg atgyweirio neu leithder a llwydni."

Y gŵyn yn erbyn Cyngor Caerdydd

Roedd Ms C wedi cwyno am gyflwr yr eiddo yr oedd yn ei rentu gan Gyngor Caerdydd.  

Dywedodd nad oedd y cyngor wedi ymateb na gweithredu yn briodol ac mewn modd amserol ar adroddiadau am ollyngiadau dŵr a lleithder a llwydni helaeth.

Cwynodd hefyd nad oedd y cyngor wedi cynnal gwaith atgyweirio mewn modd amserol nac wedi gwneud ymdrechion rhesymol i ddarparu llety arall i'w theulu, ar ôl i'r eiddo gael ei nodi fel un nad oedd yn addas i bobl fyw ynddo.

Daeth yr Ombwdsmon i'r casgliad fod y cyngor yn ymwybodol o bresenoldeb lleithder a llwydni ym mis Ebrill 2021 a bod Ms C wedi gwneud sawl adroddiad dros sawl blwyddyn am ollyngiad dŵr sylweddol o’r ystafell ymolchi a achosodd ddifrod i nenfwd y gegin.  

Erbyn mis Mawrth 2024 roedd yr eiddo wedi mynd i gyflwr ofnadwy.

Fe wnaeth Ms C a dwy o’i merched dreulio misoedd yn byw mewn "amodau anaddas" gyda’i mam oedrannus.

Gwnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, a derbyniodd y cyngor bob un ohonynt. 

Roedd y rhain yn cynnwys ymddiheuro i Ms C a thalu iawndal o £3,000 iddi. 

Y gŵyn yn erbyn Cyngor Sir y Fflint

Roedd Miss Y wedi cwyno am y ffordd yr oedd ei landlord, Cyngor Sir y Fflint, wedi ymateb i adroddiadau am leithder a llwydni yn ei chartref, ac nad oeddent wedi cymryd camau priodol i ddarparu llety arall.

Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad fod y cyngor wedi methu â nodi bod Miss Y wedi gwneud nifer o geisiadau atgyweirio ynghylch yr un mater.  

Roedd swyddogion wedi ymweld â chartref Miss Y ar sawl achlysur er mwyn mynd i'r afael â phroblemau newydd, tra bod ceisiadau atgyweirio blaenorol yn parhau i fod heb eu datrys. O ganlyniad cafodd nifer o gyfleoedd eu colli i nodi lleithder a llwydni, a chynnal gwaith i fynd i'r afael â hyn. 

Yn ôl yr adroddiad, ni weithredodd y cyngor mewn modd amserol unwaith yr oedd maint y gwaith a oedd ei angen i gartref Miss Y yn hysbys.  

Cafodd Miss Y a’i phlant eu gadael i fyw mewn "amodau annerbyniol" am bum mis ar ôl i'r cyngor ddod yn ymwybodol o leithder yn ei chartref. 

Gwnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, a derbyniodd y Cyngor bob un ohonynt. 

Roedd y rhain yn cynnwys ymddiheuro i Miss Y a darparu £1,258 o iawndal ychwanegol am y gofid a’r dodrefn a’r eiddo coll, ar ben y £500 a gynigiwyd eisoes.

Nododd yr Ombwdsmon fod y cyngor eisoes wedi gwneud newidiadau i'w systemau i fynd i'r afael â rhai o'r methiannau.

'Cymryd y canfyddiadau o ddifrif'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Rydym yn cydnabod canfyddiadau ymchwiliad yr Ombwdsmon i'n Huned Cynnal a Chadw Ymatebol ac yn derbyn yn llwyr yr holl argymhellion a wnaed yn yr adroddiad.

"Roedd y gwasanaeth a ddarparwyd i ddeiliad y contract yn wael ac ymhell islaw'r safon rydym yn ei disgwyl. Rydym yn ymddiheuro’n ddiamod am hyn, ac am yr effaith a gafodd arni hi a'i theulu.

"Mae'r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol yn gyfrifol am gynnal a chadw 14,200 o gartrefi cyngor ledled Caerdydd, gan gwblhau dros 4,000 darn o waith newydd bob mis. Yn ystod y cyfnod y cyfeiriwyd ato yn y gŵyn, roedd y gwasanaeth o dan bwysau digynsail."

Ychwanegodd: "Yn dilyn y pandemig roedd ôl-groniad sylweddol o waith atgyweirio a chynnydd sydyn yn y galw am waith brys. Ar yr un pryd, bu cynnydd sydyn yn nifer yr adroddiadau am leithder a llwydni, ac roedd angen rheolaeth fwy cymhleth ar lawer o achosion, gan ymestyn ein capasiti ymhellach."

Fe aeth ymlaen i ddweud bod y cyngor yn "cymryd canfyddiadau'r Ombwdsmon o ddifrif". 

"Er bod llawer o gynnydd wedi'i wneud, rydym yn cydnabod bod mwy y gellir ei wneud ac rydym yn parhau gyda'n rhaglen wella,"  meddai'r llefarydd.

Llun: Michelle Morris yr Ombwdsmon 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.