Galw am ostyngiad pellach yn oedran sgrinio canser y coluddyn
Fe ddylai profion sgrinio gwirfoddol ar gyfer canser y coluddyn fod ar gael i bobl o dan 50 oed.
Dyna farn gŵr o Sir Gaerffili, John Woodland, ar ôl iddo dderbyn diagnosis o’r afiechyd ddwy flynedd yn ôl, a hynny heb iddo brofi unrhyw symptomau.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod gostyngiad yn yr oedran sgrinio am ganser y coluddyn wedi arwain at ddyblu’r niferoedd o achosion sydd wedi eu canfod mewn pobl yng Nghymru.
Ers 2021, mae'r oedran sgrinio wedi gostwng yn raddol bob blwyddyn, o 60 oed i 50 oed yn Hydref 2024.
Yn ôl ffigyrau gan Lywodraeth Cymru, mae cyfraddau diagnosis o ganser y coluddyn wedi cynyddu yn y rhaglen sgrinio, o 211 yn 2020-21, i 457 yn 2023-24.
Mae gwahoddiadau blynyddol ar gyfer sgrinio hefyd wedi cynyddu o 223,000 o bobl i fwy na 500,000.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd i Lywodraeth Cymru, Jeremy Miles bod canfod canser yn gynnar yn "hanfodol" i wella canlyniadau canser.
'Sioc llwyr'
Yn dad a thad-cu sy'n hoff o gadw’n heini, fe wnaeth John Woodland o'r Coed-duon gymryd y prawf sgrinio yn Nhachwedd 2023, ac yntau’n 52 oed.
Er nad oedd ag unrhyw symptomau, dywedodd ei fod yn “awyddus” i gymryd y prawf adref ar ôl derbyn y gwahoddiad wedi i’r oedran sgrinio ostwng o 60.
“Rwyf wastad wedi ceisio bod ar y droed flaen gyda’m iechyd, felly fe wnes i’r pac gartref, ac anfon e’n ôl.”
Ar ôl derbyn llythyr yn dweud bod gwaed wedi’i ganfod yn ei sampl, fe aeth John am golonosgopi.
“Rwy’n cofio cael y colonosgopi am 14.30 ar bnawn Sadwrn, ac fe gefais y newyddion yna bod gen i ganser ar y coluddyn. Ro’n i a’m mhartner mewn sioc llwyr, i’r pwynt ble ro’n i bron a dadlau gyda’r nyrs. Dwi’n meddwl bod e di cymryd ryw dair wythnos cyn i mi dderbyn y peth.”
Roedd y canser wedi cyrraedd cymal 2, ac ym mis Chwefror 2024, fe gafodd John lawdriniaeth i dynnu’r canser. Cafodd hefyd driniaeth i osod bag stoma dros dro, cyn derbyn triniaeth cemotherapi rhwng mis Mai a mis Awst 2024.
Wedi’r driniaeth, roedd John yn glir o ganser, ac fe gafodd y llawdriniaeth i dynnu’r stoma'r llynedd.
“Roedd y GIG yn gwbl wych. Fe wnaethon nhw fy arwain yn dda gyda’r cynllun triniaeth ar bob cam o’r ffordd.
“Does dim amheuaeth bod y sgrinio cynnar wedi dal y canser ar stage 2, yn lle stage 3 neu 4 o bosib. Taswn i wedi aros nes fy mod yn 60 oed, sa i’n siŵr fyddwn i wedi bod yma nawr i ddweud fy hanes.
“Mi oedd y driniaeth yn galed ond dwi wedi dod drwyddi nawr. Yn anffodus, mae rhai pobl yn oedi cyn gwneud y pac profi, ac wedyn maen nhw’n cael symptomau, ond erbyn ‘ny, mae'n rhy hwyr i wneud unrhyw beth amdano.
“Dwi dal yma i weld fy wyrion, fy mhlant yn tyfu lan, a rhannu fy mywyd ‘da nhw, ac mae hynny’n anhygoel.”
'Goswtng yr oedran'
Er bod John yn credu bod y system bresennol yn rannol gyfrifol am achub ei fywyd, mae’n dweud y dylai’r pecynnau fod ar gael i bobl o dan 50 oed.
“Yn anffodus, mae yna straeon o bobl yn eu 20au neu 30au, dynion a merched, sydd yn cael yr afiechyd,” ychwanegodd.
“Mae 50 oed yn grêt, ond efallai bod angen iddo ostwng yn llai na hynny hyd yn oed. Y gwir yw bod pobl wedi colli aelodau o’u teulu oherwydd nad yw’r oedran yna mor isel a be fydde’n gallu bod.”
Yn ôl elusen Bowel Cancer UK, nid yw un ym mhob tri o bobl sydd yn gymwys am brawf sgrinio cartref yn eu cwblhau.
Dywedodd Andy Glyne, Arweinydd Strategaeth Diagnosis Cynnar ar ran elusen Bowel Cancer UK: “Rydym yn gwybod fod pobl yn poeni ac yn ofnus o ganser. Rydym yn deall pam, a dyna pam bod sgrinio am ganser y coluddyn yn mor bwysig.
“Mae’r system yma yn ffordd o gynyddu lefelau diagnosis cynnar ar gyfer canser y coluddyn, ac o gynyddu’r gyfradd goroesi, felly mae’r ffigyrau yn bositif iawn.
“Pe byddai mwy o bobl yn cwblhau’r profion, fe fyddwn yn gweld rhagor o fywydau yn cael eu hachub.”
Dywedodd Steve Court, Pennaeth Rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru: “Mae mwy o bobl nag erioed yn manteisio ar y pecyn profi gartref ac mae mwy o achosion o ganser yn cael eu canfod o ganlyniad.
"Mae hyn yn golygu y bydd bywydau'n cael eu hachub. Mae 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ddal yn gynnar."
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C: “Rydym yn dilyn cyngor annibynnol, arbenigol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU sy’n argymell sgrinio coluddyn rheolaidd i ddynion a menywod rhwng 50 a 74 oed.”
Symptomau
Canser y coluddyn yw’r pedwerydd math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU. Mae’n gallu effeithio ar ddynion a menywod.
Gall symptomau canser y coluddyn gynnwys:
- Gwaedu o'ch pen ôl a/neu waed yn eich carthion
- Newid parhaus ac anesboniadwy yn arferion y coluddyn
- Colli pwysau heb esboniad
- Blinder eithafol heb unrhyw reswm