Yr SNP a Phlaid Cymru yn cynnal trafodaethau yng Nghaeredin
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi addo cydweithio gyda Phlaid Cymru gyda'r bwriad o ddangos fod "dewis arall cadarnhaol i anobaith a dirywiad San Steffan".
Mae John Swinney wedi cynnal trafodaethau gydag arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yng Nghaeredin ddydd Iau, gyda'r ddau ddyn yn awyddus i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu "cynghrair flaengar" rhwng y ddwy blaid.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod ganddyn nhw "gyfle gwirioneddol i ddangos grym gwleidyddiaeth flaengar".
Roedd y cyfarfod hefyd yn canolbwyntio ar ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi plant, gyda Phlaid Cymru yn dweud y bydd y blaid yn treialu fersiwn o'r taliad plant sydd yn bodoli yn yr Alban os bydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf yng Nghymru ar ôl etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.
Wrth siarad cyn cyfarfod ddydd Iau, dywedodd arweinydd yr SNP, Mr Swinney, nad yw "status quo San Steffan yn gweithio".
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban: “Mae biliau’n mynd i fyny, mae pobl yn ei chael hi’n anodd ac ateb Llywodraeth Lafur y DU yw rhuthro ymhellach ac ymhellach i’r dde i gadw i fyny â Nigel Farage.
“Nid dyma'r status quo rwy’n fodlon ei dderbyn – a byddaf wrth fy modd yn gweithio gyda fy ffrindiau ym Mhlaid Cymru i ddangos i bobl yr Alban a Chymru fod dewis arall cadarnhaol i anobaith a dirywiad San Steffan.”
'Gweledigaeth'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ei fod yn edrych ymlaen at gyfarfod Mr Swinney i “drafod ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol ein cenhedloedd.
“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn awyddus i fabwysiadu arferion gorau o bob cwr o’r byd o ran mabwysiadu polisïau i wella bywydau beunyddiol pobl a ble gwell i ddechrau nag gydag un o’n cynghreiriaid agosaf yn yr Alban.
“Mae Taliad Plant yr Alban yn bolisi radical a chyffrous yr ydym wedi ymrwymo i’w gyflwyno fel cynllun peilot Cymreig pe bai Plaid Cymru yn ffurfio’r llywodraeth nesaf ym mis Mai.
"Diolch i fesurau fel hyn, yr Alban yw’r unig ran o’r DU lle mae cyfraddau tlodi plant i fod i ostwng yn y blynyddoedd i ddod. Rwyf am i hynny fod yn wir yng Nghymru hefyd."
Llun: PA