Rhai ysgolion yn cadarnhau y byddan nhw ar gau eto ddydd Mawrth
Rhai ysgolion yn cadarnhau y byddan nhw ar gau eto ddydd Mawrth
Mae rhai ysgolion eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw ar gau ddydd Mawrth o ganlyniad i rew ac eira dros y dyddiau diwethaf.
Roedd degau o ysgolion a cholegau ar gau yng Nghymru ddydd Llun, gyda nifer fawr o ysgolion yng Ngwynedd, Ceredigion a Sir Gâr yn eu plith.
Mae rhai ysgolion eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw ar gau ddydd Mawrth, gyda rhagolygon am gawodydd pellach o eira a thymheredd o dan y rhewbwynt dros nos.
Maent yn cynnwys Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, Ysgol Tryfan ym Mangor, Ysgol Bro Teifi yn Llandysul, Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan, ac Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.
Dros nos roedd 19cm o eira wedi disgyn ym mhentref Pontsenni ym Mhowys, a'r tymheredd yn plymio i -10 yn Y Bala.
Roedd rhybudd melyn am eira a rhew mewn grym dros y gogledd a'r gorllewin hyd at 12:00 ddydd Llun - gyda Heddlu Gogledd Cymru'n rhybuddio y dylid teithio gyda gofal neu dim ond os yw'r siwrne'n un hanfodol.
Mae rhybudd melyn newydd wedi dod i rym am hanner dydd am eira a rhew dros ogledd a gorllewin Cymru, fydd mewn grym hyd at 11:00 ddydd Mawrth.
Mae modd dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgolion sydd ar gau drwy glicio ar dudalennau'r cynghorau yma:
Gwynedd: https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/digwyddiadauargyfwng
Sir Gâr: https://ysgolionargau.sirgar.llyw.cymru
Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/newyddion/2026/eira-ysgolion-ar-gau-yng-ngheredigion
Sir Benfro: https://www.sir-benfro.gov.uk/ysgolion-sydd-ar-gau
Abertawe: https://www.abertawe.gov.uk/ysgolionargau?lang=cy
Merthyr: https://schoolclosures.merthyr.gov.uk
Conwy: https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Education-and-Families/School-Closures.aspx
Sir Ddinbych: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/cau-ysgolion-mewn-argyfwng.aspx
Sir y Fflint: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/SchoolClosures.aspx
Pen-y-bont ar Ogwr: https://www.bridgend.gov.uk/residents/schools-and-education/school-closures/
Wrecsam: https://www.wrecsam.gov.uk/school-status
Rhondda Cynon Taf: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SchoolsandLearning/Schooltermdatesinsetdaysandemergencies/Emergencyclosures.aspx
Yng Ngwynedd mae safleoedd dysgu Coleg Menai yn Llwyn Brain/Parc Menai ar gau.
Ar Ynys Môn mae Ysgol David Hughes ar gau o achos pryderon am ddiogelwch y safle oherwydd y tywydd.
Yn ardal y gogledd ddwyrain mae holl safleoedd dysgu Coleg Cambria ar gau ddydd Llun o ganlyniad i bryderon am y tywydd.
'Echrydus'
Mewn cyhoeddiad ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd cwmni bysys Gwynfor Coaches eu bod wedi cynghori eu staff i aros adref ac felly ni fyddai unrhyw wasanaethau bws yn rhedeg ar draws eu rhwydwaith yng Ngwynedd gan y cwmni ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd fod y sefyllfa ar rai ffyrdd yn "echrydus" o wael, gyda gweithwyr yn dweud nad oedd modd iddyn nhw adael eu cartrefi ym Mhenygroes, Rhosgadfan, Bethesda ac ardal Deiniolen i gyrraedd y gwaith.
Yr un oedd neges cwmni Lloyds Coaches hefyd - gan ddweud na fyddai eu gwsanaethau'n rhedeg o gwbl yn y gogledd orllewin yn ystod y dydd o achos yr eira.
Teithwyr mewn trafferth
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi eu galw yn dilyn adroddiadau fod nifer o deithwyr yn sownd yn eu cerbydau mewn ardaloedd fel ffordd yr A487 i'r de o Gaernarfon i gyfeiriad Garndolbenmaen.
Erbyn ganol dydd, dywedodd yr heddlu fod prif ffyrdd y gogledd ar agor i drafnidiaeth, ond bod ffyrdd cefn yr ardal wedi eu heffeithio gan eira.
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys roedd yr amodau teithio yn ardal Hwlffordd yn "hynod o wael" erbyn amser cinio.
Roedd camerâu Traffig Cymru ar ffordd yr A55 fore dydd Llun yn dangos fod eira mewn mannau yn ardal Bangor a Phorthaethwy, ond nid oedd adroddiadau am unrhyw oedi.
Dros nos roedd Twnnel Conwy ar gau am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad ond mae bellach wedi ailagor.
Mae modd dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am drafferthion ar y ffyrdd ar wefan Traffig Cymru yma:
https://traffig.cymru/rhybuddion-traffig
Prif Lun: PA