Prisiau olew yn syrthio ar addewid o gytundeb heddwch rhwng Iran ac UDA

Petrol

Mae prisiau olew wedi syrthio yn sydyn yn sgil gobeithion y gallai rhyfel yr Unol Daleithiau ac Israel ag Iran ddod i ben â chytundeb.

Mae yna ddyfalu y gallai cytundeb i ddod â’r gwrthdaro i ben gael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Marco Rubio, yn ystod ymweliad ag India fod “rywbeth eithaf cadarn ar y bwrdd”.

“Roedden ni’n meddwl y byddai yna rywfaint o newyddion neithiwr. Efallai heddiw.”

Syrthiodd pris olew byd-eang Brent 5.5% i $97.90 (£72.64) y gasgen ddydd Llun, tra roedd olew crai sy’n cael ei fasnachu yn yr Unol Daleithiau 5.9% yn is ar $90.93.

Roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud yn flaenorol y byddai’r cytundeb yn cynnwys ailagor Culfor Hormuz, sy’n allweddol i ddosbarthu tua 20% o olew y byd.

Mae’r ddyfrffordd gul wedi bod ar gau i bob pwrpas ers i’r gwrthdaro ddechrau ar 28 Chwefror.

Mae marchnadoedd ariannol y DU a’r Unol Daleithiau ar gau ddydd Llun oherwydd gwyliau cyhoeddus, ond fe gododd marchnadoedd ariannol Asia ar y newyddion.

Daeth ei sylwadau ar ôl i Trump ddweud na ddylai ei weinyddiaeth “ruthro i gytundeb”, ar ôl awgrymu’n gynharach fod un yn agos.

Dywedodd Trump ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn ei fod wedi cael “galwad dda iawn” gydag arweinwyr Saudi Arabia, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Qatar, ac eraill i drafod heddwch.

“Mae cytundeb wedi ei drafod i raddau helaeth, yn amodol ar ei gwblhau rhwng Unol Daleithiau America, Gweriniaeth Islamaidd Iran, a’r gwledydd amrywiol eraill, fel y’u rhestrwyd,” meddai Trump.

“Mae agweddau a manylion olaf y cytundeb yn cael eu trafod ar hyn o bryd, a byddan nhw’n cael eu cyhoeddi cyn bo hir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.