‘Ddim y lle i wneud pres’: Dros £250,000 mewn dirwyon parcio yn Ysbyty Gwynedd
Mae rhai gyrwyr yn dweud nad yw maes parcio Ysbyty Gwynedd yn addas bellach ar gyfer cleifion a’u teuluoedd, wedi i Newyddion S4C ganfod bod dros £75,000 wedi’i gasglu mewn dirwyon yno yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig.
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi casglu cannoedd o filoedd o bunnoedd mewn dirwyon ym maes parcio’r ysbyty.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod ganddyn nhw gytundeb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i reoli’r maes parcio “er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel a dirwystr i’r holl ddefnyddwyr”.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod yn cydnabod bod y sefyllfa yn un "heriol" wrth iddyn nhw "barhau i ystyried ffyrdd o ateb y galw am leoedd parcio."
Yn ôl y ffigyrau a ryddhawyd yn dilyn cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan Newyddion S4C, talwyd £30,064 mewn dirwyon ym maes parcio’r ysbyty yn 2021–22, pan oedd rhai mesurau Covid dal i fodoli.
Roedd cynnydd sylweddol yn 2022-23 gyda chyfanswm y dirwyon yn ystod y flwyddyn ariannol honno yn codi i £88,078.
Roedd gostyngiad yn 2023-24 i £83,751, gyda gostyngiad pellach i £75,279 yn 2024–25.
Mae Newyddion S4C wedi siarad gyda sawl unigolyn sydd wedi derbyn dirwy wrth barcio yn yr ysbyty.
Roedd rhai yn aflwyddiannus wrth geisio apelio yn erbyn eu dirwyon, tra bod dirwyon rhai unigolion wedi cael eu diddymu yn dilyn apêl.
‘Be’ ti’n fod i wneud?’
Yn fam i dri, cafodd Nia Roberts o Fodedern, Ynys Môn ddirwy yn Hydref 2024 tra’n feichiog ac yn mynychu apwyntiad sgan yn yr ysbyty.
“Roedd fy apwyntiad am 11.10, ond o’n i yno lot, lot cynharach achos bod y maes parcio’n nightmare – a hi’n tywallt y glaw,” meddai.
“Ar ôl edrych am hir, yn y diwedd neshi give in a parcio yn y short stay. Geshi fynd i mewn yn syth am y sgan, ond geshi’n anfon i’r uned asesu. Pan nes i ddod allan, odd hi tua 12.20, felly lot hirach nag o’n i’n disgwyl.”
Pan aeth yn ôl at ei char, roedd tocyn dirwy yno.
“O’n i’n fuming. O’n i mewn lot o boen, ar ben fy hun, a hi’n glawio’n drwm," meddai.
"Be’ ti’n fod i ‘neud? Pan mae fy mhartner gyda fi fel arfer, mae o’n gollwng fi a mynd i chwilio am le, ond y tro yma o’n i ar ben fy hun.”
Er iddi apelio, dywedodd ei bod wedi ildio yn y diwedd.
“Cymerodd tua mis iddyn nhw ymateb, ychydig ar ôl i fi geni Gwion. Pan ddaeth yr ateb, o’n i mor flin, ond neshi just roi give in a talu.”
Pryder
Fe wnaeth Anne Allen o Amlwch dderbyn dirwy yng Ngorffennaf 2023 pan oedd ei mab, Peter, yn ddifrifol wael. Roedd o angen llawdriniaeth i dynnu rhan o’i goes ar frys.
Roedden nhw wedi parcio ar linell felen gyda bathodyn glas dros dro, gan fod hawl gwneud hynny mewn mannau eraill.
Yn ôl Ms Allen, doedd dim arwyddion yn hysbysebu nad oedd hawl parcio ar linell felen gyda bathodyn glas yn Ysbyty Gwynedd.
“Roedd fy ngŵr wedi mynd i’r cyntedd i chwilio am gadair olwyn – doedd dim un yno," meddai.
"Mae o’n 81 oed, ac roedden ni wedi treulio misoedd yn gwthio Peter i fyny ac i lawr coridorau ysbytai.
“Roedd gennym apwyntiad a dydych chi ddim am fethu un mor bwysig â hyn.”
Dywedodd fod y ddirwy wedi’i rhoi o fewn munudau.
Bu farw eu mab Peter yn 53 oed fis Hydref 2023, ar ôl cymhlethdodau â diabetes, a dywedodd Anne fod y profiad yn yr ysbyty wedi achosi rhagor o bryder yn ystod y cyfnod.
“Pan wnes i apelio, roedd fy mab wedi marw erbyn hynny,” meddai.
“Fe wnaethon nhw ganiatáu’r apêl ‘ar yr achlysur hwn’, ond ychwanegu ‘ond yn y dyfodol’… wel, dydy fy mab ddim yn mynd i farw eto, ydy?”
‘Dim compassion’
Mae Gwynfor Griffiths o Benygroes, sy’n byw gydag anabledd, yn dweud iddo yrru rownd y safle am dri chwarter awr cyn parcio ar lain o laswellt fis Mawrth eleni.
“Mae gen i gyflwr disc degeneration yn fy nghefn. O’n i’n mynd rownd, a rownd, a rownd – dim unman i barcio,” meddai.
“Yn y diwedd neshi barcio ar y verge - hollol saff, dim yn rhwystro neb. O’n i’n rhedeg allan o amser cyn colli’r apwyntiad.”
Dywedodd iddo gerdded i’r ysbyty mewn poen, cyn cael ei weld gan yr ymgynghorydd bron ar unwaith.
“Pan ddeshi nôl allan, roedd y tocyn ar y car. O’n i’n gutted, blin, gwallgo’.”
Dywedodd iddo hefyd weld dynes hŷn yn crio yn ei char.
“Nath hi ddeud bod ei gŵr newydd ddechrau cemotherapi, a doedd dim lle iddi barcio. Mae’n shocking – dim yn fit for purpose o gwbl.”
Ar ôl i’w apêl gael ei wrthod, dywedodd iddo fynd â’i stori at y wasg leol.
“Ar ôl hynny, daeth llythyr yn dweud... bod y ddirwy yn cael ei ddileu. Pam ddim gwneud hynny yn y lle cyntaf?”
Fe ychwanegodd: “Ti’n mynd i’r ysbyty a ti’m yn disgwyl ca'l ffein. Dio’m yn iawn. Ma rhan fwya’ o bobl yn mynd i’r ysbyty i gal triniaeth, ma pobol yn marw, does 'na’m compassion. Dim hosbitol di’r lle i neud pres.
“Er bo’ fi heb orfod talu yn y diwadd, mi geshi fy nghosbi.”
Ymateb Cyngor Gwynedd
Yn ôl y Cais Rhyddidd Gwybodaeth a wnaed gan Newyddion S4C, dyma gyfanswm y dirwyon a'r arian gasglwyd o faes parcio'r ysbyty dros y bedair blynedd diwethaf.
- 2021/22: 1,143 o ddirwyon - cyfanswm o £30,064.93
- 2022/23: 3,499 o ddirwyon - cyfanswm o £88,078.03
- 2023/24: 3,160 o ddirwyon - cyfanswm o £83,751.03
2024/25: 2,837 o ddirwyon - cyfanswm o £75,279.24
Image
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Dim ond pan fo tystiolaeth gadarn fod gyrwyr wedi parcio yn groes i’r rheoliadau y bydd ein swyddogion yn cymryd camau.
“Rydym yn cydnabod bod ymweld â’r ysbyty yn gallu bod yn brofiad anodd ar y gorau, ac mae’n ddrwg gennym glywed am brofiadau eich cyfranwyr.
“Nodwn bod rôl swyddogion sy’n monitro a gorfodi cyfyngiadau parcio yn gallu bod yn un anodd a heriol, ac rydym yn ddiolchgar i ddefnyddwyr y maes parcio am eu trin gyda pharch.”
Dywedodd y cyngor eu bod yn “cyflwyno cynllun yn ardal Penrhosgarnedd ym Mangor i gefnogi opsiynau teithio llesol fel dewisiadau amgen i'r car".
“Er efallai na fydd y rhain yn opsiynau i bawb, os yw'r rhain yn cael eu defnyddio gan fwy o'r rhai sy'n gallu eu defnyddio, bydd hyn yn helpu i ryddhau lleoedd parcio ceir ar y safle," medden nhw.
Ychwanegodd y cyngor fod unrhyw un sy’n teimlo eu bod wedi derbyn tocyn yn annheg yn gallu apelio, a bod yr incwm o ddirwyon yn cael ei ddefnyddio i dalu costau gweinyddol ac i gynnal y gwasanaeth gorfodaeth.
'Heriol'
Dywedodd Stuart Keen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Ystadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn cydnabod yn llwyr bod parcio’n gallu bod yn heriol ar bob un o’n tri safle ysbyty acíwt, ac nid ydym yn tanbrisio’r rhwystrediaeth y gall hyn ei achosi.
"Dyma her yr ydym yn ei rhannu gyda Byrddau Iechyd eraill ledled y wlad. Nid oes unrhyw atebion cyflym na hawdd i wella capasiti, oherwydd cyfyngiadau cyllid, a diffyg tir sydd ar gael yn agos i’r ysbytai hyn lle y gellid cyflwyno darpariaeth barcio ychwanegol.
"Byddwn yn parhau i ystyried ffyrdd o ateb y galw am leoedd parcio.
“Gofynnwn i chi ganiatáu digon o amser wrth deithio i’n safleoedd ysbyty er mwyn dod o hyd i le parcio ac i chi ystyried opsiynau eraill lle bo’n bosibl, fel defnyddio cludiant cyhoeddus neu gofyn i ffrindiau neu anwyliaid fynd â chi yno.”