Ailddechrau'r ymdrech i ddod o hyd i ddyn yn Afon Teifi
Mae'r gwaith o chwilio am ddyn yn Aberteifi yn dilyn pryderon ei fod wedi mynd i mewn i’r afon yno wedi ailddechrau fore dydd Llun.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi bod yn cydweithio gyda gwasanaethau eraill er mwyn ceisio dod o hyd i'r dyn ar ôl iddo fynd i mewn i’r Afon Teifi.
Y gred yw ei fod wedi mynd i’r dŵr oddi ar bont ar Stryd y Castell am tua 05:15 fore dydd Sul.
Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd y llu: "Mae'r gwaith o chwilio Afon Teifi yn Aberteifi yn parhau heddiw.
"Fe wnaethon ni dderbyn adroddiad bod dyn wedi mynd i mewn i'r dŵr tua 5.15am, dydd Sul, Ionawr 4.
"Gofynnwn i aelodau'r cyhoedd gadw draw o'r ardal – yn enwedig glannau'r afon – er eu diogelwch eu hunain.
"Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu swyddogion, cysylltwch â ni."
Ailddechrau
Mewn datganiad brynhawn ddydd Sul diolchodd y llu i'r rheini a fu'n helpu yn ystod y dydd.
Dywedodd y llu: "Mae'r chwilio am Afon Teifi yn Aberteifi wedi'i ohirio am y noson.
"Mae swyddogion, ynghyd â chydweithwyr o Wylwyr y Glannau EM, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi bod wrth yr afon ers i adroddiad gael ei wneud bod dyn wedi mynd i mewn i'r dŵr tua 05.15.
“Er gwaethaf chwilio'r ardal ar droed, mewn cwch, hofrennydd a drôn, nid yw'r dyn wedi'i ganfod.
"Bydd y chwilio’n ailddechrau yn y bore."
Roedd Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwylwyr y Glannau EM wedi bod yn bresennol yno trwy'r dydd.
Roedd hofrennydd a chychod yn rhan o’r ymdrech i ddod o hyd i’r dyn.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i gysylltu drwy ddyfynnu cyfeirnod 52 ynghyd â’r dyddiad, 4 Ionawr.