Merch 14 oed wedi cael ei thrywanu 'tua 55 o weithiau' ym Mlaenau Gwent

Merch 14 oed wedi cael ei thrywanu 'tua 55 o weithiau' ym Mlaenau Gwent

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys manylion a allai beri gofid i rai darllenwyr.

Mae llys wedi clywed bod merch 14 oed o Flaenau Gwent wedi cael ei thrywanu "tua 55 o weithiau" cyn i'w chorff gael ei ddarganfod mewn coetir.

Roedd Lilly Jones, o bentref Blaenau ger Abertyleri wedi gadael ei chartref tua 18:30 ar 20 Mehefin, gan ddweud wrth ei thad ei bod yn mynd allan am ychydig. Cafodd ei chorff ei ddarganfod mewn coetir ger Parc Dyffryn ddeuddydd yn ddiweddarach.

Mae bachgen 14 oed, nad oes modd cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, yn gwadu ei llofruddio.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun fod y ddau wedi dod yn ffrindiau ym mis Mawrth eleni. Roedd y ddau hefyd mewn rhyw fath o berthynas, yn ôl yr erlyniad.

Clywodd y llys fod Lilly wedi cael ei thrywanu yn ei chalon, ei hysgyfaint ac mewn rhydweli yn ei gwddf. 

Roedd 17 o glwyfau trywanu i'w gwddf, ac roedd marciau crafu wedi cael eu darganfod ar fraich y diffynnydd. 

Dywedodd yr erlyniad fod DNA y bachgen hefyd wedi'i ddarganfod o dan ewinedd Lilly.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.