Arweinydd newydd Venezuela: Nicolás Maduro wedi ei 'herwgipio'
Arweinydd newydd Venezuela: Nicolás Maduro wedi ei 'herwgipio'
Fe wnaeth Delcy Rodriguez dyngu llw fel arweinydd dros dro Venezuela gan ddweud bod ei rhagflaenydd Nicolás Maduro wedi ei "herwgipio" gan yr Unol Daleithiau.
Dywedodd Rodríguez, 56, sy'n is-lywydd ers 2018, ei bod hi'n pryderu am yr hyn a ddigwyddodd i Maduro a’i wraig, Cilia Flores, a gafodd eu meddiannu gan luoedd yr Unol Daleithiau mewn cyrch dros nos ddydd Sadwrn.
Yn ystod cyfarfod cabinet, dywedodd Rodríguez y byddai ei llywodraeth yn barod i gydweithio â'r Unol Daleithiau, gan ddweud: "Rydym yn gwahodd llywodraeth yr Unol Daleithiau i gydweithio â ni ar agenda o gydweithrediad sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad, o fewn fframwaith cyfraith ryngwladol."
Ychwanegodd bod gan bobl y wlad "hawl i heddwch, datblygiad, sofraniaeth a dyfodol."
Dywedodd ei bod yn "blaenoriaethu symud tuag at gysylltiadau rhyngwladol sydd yn rhai â pharch rhwng yr Unol Daleithiau a Venezuela, a rhwng Venezuela a gwledydd eraill yn y rhanbarth."
Mae Mr Trump wedi rhybuddio Rodriguez y gallai "dalu'r pris" os nad yw hi yn gwneud "yr hyn sydd yn iawn".
Pledio'n ddieuog
Yn gynharach ddydd Llun, cafodd Mr Maduro a'i wraig Cilia Flores eu trosglwyddo mewn gefynnau i lys barn yn Efrog Newydd.
Mae wedi ei gyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ac arfau.
Mynnodd yn y gwrandawiad hwnnw ei fod yn dal yn Arlywydd Venezuela, a phlediodd yn ddieuog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae ei wraig, Cilia Flores hefyd wedi pledio'n ddieuog i'r un cyhuddiadau.
Cafodd e a'i wraig eu cymryd o'u canolfan yn Caracas ddydd Sadwrn a'u hedfan i'r Unol Daleithiau yn rhan o ymgyrch gan luoedd arbennig.
'Ddim gwybod'
Mynnu mae America nad ydyn nhw mewn rhyfel gyda Venezuela ond mae Donald Trump wedi dweud y byddan nhw yn cymryd rheolaeth o'r wlad.
Fe ddywedodd hefyd y byddai cwmnïau olew yr Unol Daleithiau yn trwsio'r isadeiledd yno a dechrau "gwneud arian i'r wlad".
Ond er ei honiadau, cynghreiriad Mr Maduro sydd dal mewn grym.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na chawson nhw wybod am yr hyn roedd America yn ei gynllunio o flaen llaw.
Fe ddywedodd Prif Ysgrifennydd i'r Prif Weinidog mai'r "llysoedd rhyngwladol" fyddai yn penderfynu os oedd yr ymosodiad ar Caracas ddydd Sadwrn yn gyfreithiol neu beidio.
"Doedd Prydain ddim yn ymwneud â'r peth o gwbl," meddai Darren Jones wrth raglen Sunday Morning With Trevor Phillips ar Sky News.
"Chafon ni ddim gwybod o flaen llaw. Felly dyw e ddim fyny i ni i farnu os oedd yn llwyddiant neu beidio. Mae hynny yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Americanwyr ddatgan."
Mae Syr Keir Starmer wedi dweud ei fod eisiau deall "y ffeithiau" a siarad gyda Donald Trump cyn dweud a fyddai yn condemnio'r gweithredu milwrol. Ond fe ddywedodd yn ddiweddarach na fyddai Prydain yn "colli deigryn" dros ddiwedd teyrnasiad Maduro.
Llun: Wikipedia/Llywodraeth Rwsia