Dyn yn pledio'n euog i wisgo lifrau milwrol heb ganiatâd mewn gwasanaeth Sul y Cofio
Mae dyn 64 oed wedi pledio'n euog i drosedd yn ymwneud â gwisgo lifrau milwrol heb ganiatâd mewn digwyddiad Sul y Cofio yn Llandudno ym mis Tachwedd.
Fe blediodd Jonathan Carley o Harlech yn euog i'r cyhuddiad yn ei erbyn yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Cafodd ddirwy o £500.
Roedd Carley wedi cael ei arestio yn ei gartref rai dyddiau yn dilyn y digwyddiad, ac fe gafodd ei gyhuddo yn ddiweddarach o wisgo lifrau Lluoedd Ei Fawrhydi heb ganiatâd.
Fe gafodd lluniau eu rhannu yn eang yn y wasg ac ar-lein yn dangos Carley yn gwisgo lifrai a medalau swyddog rheng uchaf yn y llynges wrth fynychu gwasanaeth i osod torchau ar Sul y Cofio.
Wrth ddedfrydu Carley, dywedodd y Barnwr Rhanbarthol Gwyn Jones: “Dylai fod wedi bod yn gyfle gwirioneddol i gofio ac i feddwl am fywydau pawb sydd wedi gwasanaethu’r wlad a’u cymuned, gyda chymaint o bobl yn methu bod yno.
“Roeddech chi yno nid fel person dilys ond fel rhywun a ddaeth i dwyllo a chreu anwiredd.
“Mae eich gweithredoedd yn amharchu atgofion yr holl bobl hynny sydd wedi cwympo ac yn achosi llawer iawn o boen i deuluoedd.”
Wrth adael y llys, ni atebodd Carley gwestiynau gan ohebwyr ond safodd wrth ymyl ei gyfreithiwr Mark Haslam wrth iddo ddarllen datganiad byr.
Dywedodd Mr Haslam: “Hoffai fy nghleient ailadrodd ei ymddiheuriadau i bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan yr hyn a wnaeth.
"Fel y gwnaethom yn glir yn y llys, mae'n gwbl edifar ac mae'n derbyn dedfryd y llys.”
Llun: PA Media