Dŵr Cymru yn lansio ymgynghoriad ar eu 'prosiect seilwaith mwyaf erioed'
Mae Dŵr Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar y "prosiect seilwaith mwyaf yn hanes y cwmni".
Fe fydd Strategaeth Cyflenwi Dŵr Cwm Taf yn moderneiddio'r rhwydwaith dŵr yfed ar draws y de trwy gael gwared ar gyfleusterau trin canrif oed, a chynyddu'r capasiti i storio dŵr glan.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys adeiladu gweithfeydd trin dŵr newydd yn Fferm Dan-y-Castell, Merthyr Tudful ger yr A465, ac uwchraddio Gweithfeydd Trin Dŵr Llwyn-onn a fydd yn dadgomisiynu gweithfeydd trin dŵr a gafodd eu hadeiladu ym 1926.
Yn ôl y cwmni fe fydd y buddsoddiad yn "gyfle i ddiogelu gwasanaethau dŵr yn yr ardal at y dyfodol".
Fe fydd hefyd yn "sicrhau cyflenwad gwydn a chynaliadwy o ddŵr yfed glân a diogel ar gyfer bron i hanner sylfaen cwsmeriaid y cwmni".
Fe gafodd dau ymgynghoriad statudol eu lansio cyn i geisiadau cynllunio gael eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn casglu safbwyntiau trigolion a rhanddeiliaid lleol ar gynlluniau’r cwmni.
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf Dŵr Cymru bod y cynllun yn un "unwaith mewn cenhedlaeth."
“Rydyn ni’n wynebu her ddifrifol o ran diogelwch dŵr yng Nghymru," meddai.
"Nid yw seilwaith sy’n heneiddio’n gallu ymdopi â sialensiau modern - mae’r strategaeth unwaith mewn cenhedlaeth yma’n gyfle i newid hynny.
“Rhaid i ni sicrhau y gallwn barhau i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed ar gyfer ein cwsmeriaid bob un dydd o’r flwyddyn yn wyneb newid hinsawdd, twf yn y boblogaeth a seilwaith sy’n heneiddio."
Fe fydd digwyddiadau cymunedol hefyd yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf er mwyn rhoi'r cyfle i drigolion gwrdd â thîm y prosiect a chlywed rhagor am y cynlluniau.