Tafod Glas: Undeb ffermwyr yn 'croesawu' llacio cyfyngiadau

Ian Rickman

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wedi dweud ei fod yn “croesawu’r” newidiadau i gyfyngiadau sy'n ymwneud â chlefyd y tafod glas.

Daw sylwadau Mr Rickman wedi i’r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, gyhoeddi y bydd cyfyngiadau yn cael eu llacio yng Nghymru o 10 Tachwedd ymlaen. 

Mae Ian Rickman hefyd yn dweud bod y newidiadau’n hollbwysig “er mwyn cynnal sefydlogrwydd economaidd” o fewn y diwydiant. 

Fe fyddai’r newidiadau yn golygu y bydd cyfyngiadau dros dro sydd eisoes mewn grym yn dod i ben.  

Ni fydd ffermydd nac ardaloedd penodol bellach yn cael eu hatal gan gyfyngiadau sydd wedi bod mewn grym. 

Fe fydd parth newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer Cymru gyfan, gan olygu y bydd hefyd yn haws i gludo stoc a da byw ar draws y ffin i Loegr. 

Dywedodd Mr Rickman: “Mae’r gwahaniaeth polisi rhwng Cymru a Lloegr wedi cael effaith sylweddol, yn enwedig o ystyried y nifer fawr o ddaliadau trawsffiniol a’r lefel uchel o fasnachu da byw rhwng y ddwy wlad. 

“Nid yw’r pryfaid sy’n trosglwyddo’r feirws 'Tafod Glas' yn cydnabod ffiniau, ac felly mae cysondeb polisi yn hanfodol.

“Bydd cyhoeddiad heddiw, felly, yn cael ei groesawu gan nifer yn y diwydiant, yn enwedig o ystyried y nifer o ffermwyr a marchnadoedd da byw sydd wedi cael trafferth delio â’r nifer o newidiadau polisi a gyflwynwyd dros y misoedd diwethaf.”

'Bod yn ofalus'

Mae'r cyfyngiadau wedi bod yn ymwneud â seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3). 

Hyd yma, mae 11 achos o BTV-3 wedi'u cadarnhau yng Nghymru, pedwar ym Mhowys a saith yn y 'Parth Rheoli Dros Dro' yn Sir Fynwy. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn “debygol” y byddai nifer yr achosion o'r Tafod Glas yn cynyddu yn sgil hynny. 

Ond mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn dweud ei fod yn cydnabod yr effaith negyddol y mae’r cyfyngiadau presennol wedi ei gael ar y diwydiant. 

Ac mae’n dweud ei fod yn annhebygol y byddai mwy o achosion ar ôl 10 Tachwedd, yn unol â'r data. 

"Rwy'n sylweddoli bod y cyfyngiadau ar symud da byw a sefydlu'r Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) wedi tarfu ar geidwaid da byw a'r diwydiant ehangach,” meddai. 

“Rwyf wedi cwrdd â'r sectorau da byw a milfeddygol yn rheolaidd, mewn cyfarfodydd ford gron, ac wedi gwrando ar eu hymateb i'r heriau y mae'r cyfyngiadau ar symud da byw rhwng Cymru a Lloegr ac effeithiau posibl y Tafod Glas ar iechyd a lles anifeiliaid, wedi'u creu. 

"O gofio bod firws y Tafod Glas wedi cyrraedd Cymru, a bod data hanesyddol am y tymheredd a gwaith modelu yn awgrymu ei bod yn annhebygol iawn y bydd gwybed yn lledaenu firws y Tafod Glas yng Nghymru ar ôl 10 Tachwedd, bydd y Parth dan Gyfyngiadau yng Nghymru'n dechrau ar y diwrnod hwnnw."

Mae Llywodraeth Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i gydweithio gyda’u gilydd ac yn annog ffermwyr i ystyried brechu “fel cam allweddol i ddiogelu eu da byw.” 

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine: "Rydyn ni'n parhau i annog amaethwyr i fod yn ofalus wrth brynu stoc, i gadw golwg am arwyddion o'r Tafod Glas ac i roi gwybod ar unwaith i APHA os ydyn nhw'n amau bod achos o'r clefyd."

Dyma fydd y cyfyngiadau newydd: 

  • Diddymu'r Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) - bydd y TCZ presennol a'r amodau cysylltiedig yn cael eu dileu, gan symleiddio'r mesurau i reoli'r clefyd ledled Cymru;
  • Dileu'r cyfyngiadau ar lefel safle - ni fydd cyfyngiadau symud neu reoli sy'n benodol i'r Tafod Glas ar safleoedd unigol yng Nghymru bellach;
  • Dim rhagor o ddifa na chyfyngiadau – ni chaiff anifeiliaid heintiedig eu difa ac ni chaiff rhagor o gyfyngiadau eu gosod oherwydd seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) yng Nghymru;
  • Dim cyfyngiadau ar symud da byw - ni fydd gorfodaeth bellach i frechu da byw sy'n cael eu symud rhwng Cymru a Lloegr rhag y Tafod Glas na chymryd mesurau lliniaru eraill. Bydd hynny'n hwyluso'r fasnach a logisteg. Mae brechu yn dal i gael ei argymell, gan gynnwys ar gyfer da byw sy'n symud i bori yn Lloegr dros y Gaeaf;
  • Gwyliadwriaeth barhaus a bod yn barod - bydd monitro rheolaidd yn parhau, er mwyn canfod unrhyw seroteipiau newydd o'r Tafod Glas a chefnogi ymdrechion i adennill statws di-glefyd yn y dyfodol. Efallai y bydd angen mesurau rheoli ar gyfer seroteipiau eraill y Tafod Glas;
  • Cyfyngiadau'n parhau ar gynhyrchion  cenhedlu - parheir i gynnal profion ar anifeiliaid sy'n darparu cynhyrchion cenhedlu cyn rhewi a marchnata'r cynhyrchion hynny i sicrhau ansawdd a lleihau'r risg o drosglwyddo'r Tafod Glas yn y tymor hwy;
  • Newidiadau i symudiadau da byw i'r Alban - bydd anifeiliaid sy'n cael eu symud o Barth dan Gyfyngiadau Cymru i'r Alban yn gorfod bodloni rheolau Llywodraeth yr Alban ar drwyddedu a phrofion symud.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.