Oes digon o ferched yn mentro i faes gwyddoniaeth a pheirianneg?

Oes digon o ferched yn mentro i faes gwyddoniaeth a pheirianneg?

Oes 'na ddigon o ferched yn mentro i faes gwyddoniaeth a pheirianneg? 

Mae'n ymddangos bod y meysydd hynny, ar y cyfan, yn denu mwy o ddynion o hyd. 

Er bod ymdrechion i newid hynny, mae ffigyrau yn dangos mai ychydig iawn o gynnydd fu yn y blynyddoedd diwethaf yn y nifer sy’n astudio rhai o’r pynciau sy’n cael eu galw yn STEM yn Lefel A. 

Mae’r pynciau hynny’n cyfeirio at wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Mae Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi ceisio cynyddu’r nifer o ferched sy’n dilyn gyrfaoedd yn y meysydd yma.

Image
Ysgol Bro Edern
Fe enillodd criw o ddisgyblion Ysgol Bro Edern wobr merched mewn chwaraeon.

Ond yn ôl ffigyrau gan y Cydgyngor Cymwysterau, mae’r nifer o ferched sy’n astudio Lefel A bioleg, cemeg, mathemateg a ffiseg yn y chwe blynedd wedi aros yn eithaf tebyg.

Yn 2018/19 roedd y ffigwr yn 4,720, tra yn 2024/25 4,767 oedd y nifer, er i bod nhw wedi codi yn rhai o’r blynyddoedd rhyngddyn nhw.

Mae 'na hefyd fwy o fechgyn yn parhau i astudio’r pynciau yma, sef 6,015 y llynedd.

Dywedodd yr Athro Arwyn Tomos Jones o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd bod mwy o fyfyrwyr yn ferched na bechgyn, yn gyffredinol yn astudio yno.

Ond be felly ydi’r rhesymau dros brinder merched yn mynd i’r meysydd eraill?

“Mae yna nifer, yn cynnwys nad ydi’r hen stereotype wedi diflannu nac yn wannach chwaith,” meddai.

“Efallai bod y stigma yna o hyd nad ydi merched efallai yn meddwl mai peirianneg neu ffiseg ydi eu lle nhw.”

Image
Disgyblion Ysgol Bro Edern
Disgyblion chweched dosbarth Ysgol Bro Edern

Yn ddiweddar mae criw o ferched 16 oed chweched dosbarth Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth ysgolion fformiwla 1 y byd yn Singapore.

Fe enillon nhw wobr merched mewn chwaraeon.

Dywedodd Carys, un o’r cystadleuwyr, bod y gystadleuaeth wedi gwneud iddi gymryd mwy o ddiddordeb mewn pynciau STEM.

“Nawr fi’n gwneud pedwar ohonyn nhw yn Lefel A,” meddai.

Dywedodd Dewi Thomas, sy’n dysgu gwyddoniaeth a thechnoleg, bod yr ysgol wedi newid cyfnod allweddol 3 i ddenu mwy o blant a merched i astudio’r pynciau stem.

“Unwaith mae un neu ddwy yn dewis y pwnc mae’n dilyn ac yn gweld llwyddiant maen nhw’n deall bod e ddim jyst i fechgyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.