Andrew Mountbatten Windsor i golli ei gartref a'i brif deitl, 'Tywysog'

31/10/2025

Andrew Mountbatten Windsor i golli ei gartref a'i brif deitl, 'Tywysog'

Mae camau allweddol cyntaf wedi ei gymryd i dynnu teitlau Andrew Mountbatten Windsor oddi arno wedi iddo golli ei brif deitl ‘Tywysog’ a chael gwybod y bydd yn rhaid iddo adael ei blasty, Y Lodge Brenhinol nos Iau. 

Fe gyhoeddodd Palas Buckingham fod y Brenin wedi “dechrau proses ffurfiol” o dynnu prif deitl ei frawd ddydd Iau, ac y bydd yn bellach yn cael ei adnabod fel Andrew Mountbatten Windsor. 

Mae’n ymddangos nad yw Andrew chwaith, bellach yn cael ei enwi ar restr swyddogol arglwyddi’r DU.

Dywedodd Palas Buckingham ei fod wedi cael ei dynnu oddi’r rhestr wedi i Andrew golli ei deitlau brenhinol, gan gynnwys y teitl fel Dug Efrog. 

Yn ogystal â’i brif deitl, mae'r Palas hefyd yn dweud bod "hysbysiad ffurfiol bellach wedi'i gyflwyno iddo er mwyn ildio'r brydles" ar ei gartref yn y Lodge Brenhinol yn Windsor, ac y bydd Andrew yn symud i fyw i'r ystâd frenhinol yn Sandringham, Norfolk.

"Ystyrir bod yr camau hyn yn angenrheidiol, er gwaethaf y ffaith ei fod yn parhau i wadu'r honiadau yn ei erbyn," meddai'r Palas.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd yr hanesydd Hefin Mathias bod y rhan fwyaf o bobl sy'n gohebu ar y Teulu Brenhinol, wedi bod yn disgwyl i Andrew golli ei deitl fel ‘Tywysog’ “ers cryn dipyn o amser.” 

“Mae hwn wedi bod yn destun dadl fawr… mae hwn yn gam mawr ymlaen a dwi’n gobeithio y bydd hwn wedi tawelu’r dyfroedd.” 

Virginia Giuffre

Fe gafodd hunangofiant gan y diweddar Virginia Giuffre, a wnaeth honni iddi gael ei cham-drin yn rhywiol gan Andrew pan oedd yn 17 oed, ei gyhoeddi yn gynharach yn y mis.

Fe wnaeth Virginia Giuffre farw drwy hunanladdiad chwe mis yn ôl, ond mewn cyfweliad gyda'r BBC yn dilyn y newydd nos Iau, fe alwodd frawd Ms Giuffre ar i'r awdurdodau fynd un cam yn bellach, a bod angen ymchwiliad troseddol i honiadau ei chwaer yn erbyn Andrew.

Roedd Andrew eisoes wedi cyhoeddi na fyddai  bellach yn defnyddio’r “teitlau na’r anrhydeddau a roddwyd i mi mwyach”, a hynny “gyda chytundeb Ei Fawrhydi”.

Rhoddodd Andrew y gorau i'w deitlau Brenhinol eraill yn gynharach y mis hwn, gan gynnwys Dug Efrog, ar ôl mwy o gwestiynau gael eu gofyn am ei fywyd preifat.

Mewn cofiant sydd wedi ei gyhoeddi ar ôl marwolaeth Virginia Giuffre, mae'r llyft yn cynnwys honiadau, ei bod ar y pryd fel merch yn ei harddegau, ei bod wedi cael rhyw gydag Andrew ar dri achlysur gwahanol. - mae Andrew wedi gwadu'r honiadau ers iddynt gael eu gwneud yn wreiddiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.