Pab newydd: Beth sy'n digwydd nesaf?
Wedi i'r Pab Leo XIV gael ei ethol yn arweinydd newydd yr Eglwys Gatholig ddydd Iau, beth sy'n digwydd nesaf?
Daeth cyhoeddiad brynhawn Iau mai Robert Francis Prevost yw'r Pab newydd ac arweinydd newydd yr Eglwys Gatholig.
Fe fydd yn cael ei gyfeirio ato fel y Pab Leo XIV .
Y Pab Leo XIV ydy'r dyn cyntaf o ogledd America i gael ei ethol yn arweinydd yr Eglwys Gatholig. Mae o Chicago yn UDA ac yn 69 oed.
Fe fydd yn cynnal offeren yn y Fatican bore Gwener, ac fe fydd seremoni i'w urddo yn swyddogol yn cael ei chynnal yn y dyddiau wedi iddo gael ei ethol.
Bydd yr uwch gardinal diacon yn cyflwyno clogyn gwlân o'r enw'r pallium sy'n symboleiddio awdurdod y Pab, yn ogystal â modrwy arbennig gyda delwedd o San Pedr arni, sef y Pab cyntaf.
Fe fydd yna gyfle i'r Pab wneud ei araith gyntaf go iawn, gan amlinellu rhai o'r themâu a fydd yn ganolog i'w gyfnod fel arweinydd yr Eglwys Gatholig.
Fe fydd gwasanaeth arbennig yna yn cael ei gynnal yn Sgwâr San Pedr.
Fe fydd y Pab Leo XIV yna yn dechrau yn swyddogol yn ei rôl fel arweinydd 1.4 biliwn o Babyddion o gwmpas y byd.
Ymysg ei benderfyniadau cyntaf fydd dewis lle y bydd yn mynd ar ei daith swyddogol cyntaf y tu allan i Rufain.
Fe fydd hefyd yn wynebu y wasg ddydd Llun i esbonio ei weledigaeth.
‘Pobl y cyrion’
Mae dewis y Pab newydd o’r enw Leo XIV yn arwydd y bydd yn parhau â gwaith ei ragflaenydd Ffransis, yn ôl arbenigwyr.
Roedd y Brawd Leo o'r 13eg ganrif yn ddisgybl i Sant Ffransis.
Dywedodd Dr Gonzalo Velasco Berenguer, darlithydd mewn hanes canoloesol a modern cynnar byd-eang ym Mhrifysgol Bryste: “Rwy’n credu mai un o’r pethau mwyaf diddorol am ethol y Pab newydd yw ei ddewis o enw.
“Ar yr olwg gyntaf efallai nad yw’n ymddangos y dewis mwyaf gwreiddiol, ond gallai fod yn symbol bod y Pab newydd yn bwriadu parhau â gwaith Ffransis.”
Dywedodd yr Athro Brandon Gallaher, o Brifysgol Caerwysg, y bydd Leo XIV yn “bab tebyg i Ffransis”.
“Mae Leo XIV yn rhannu awydd Ffransis i roi pobl y cyrion yn y canol a gofalu am fewnfudwyr a’r rhai sydd wedi’u hymylu,” meddai.