Trump: 'Aelod o luoedd America oedd ar goll wedi’i ddarganfod'
Mae aelod o luoedd America a oedd ar goll ar ôl i Iran saethu awyren ymladd i lawr wedi cael ei achub yn ôl yr Arlywydd Donald Trump.
Roedd y swyddog systemau arfau yn teithio ar awyren ymladd F-15E yr Unol Daleithiau a gafodd ei saethu i lawr yn ne Iran ddydd Gwener.
Cafodd peilot yr awyren ei achub, ond nid oedd lleoliad y swyddog yn hysbys - gan arwain at ras rhwng Iran ac America i geisio dod o hyd iddo.
Erbyn oriau mân bore Sul, dywedodd Arlywydd America fod y swyddog wedi cael ei achub yn dilyn ymgyrch filwrol.
Mewn datganiad ar ei blatfform Truth Social, dywedodd Trump fod y swyddog wedi cael ei achub gan luoedd ei wlad.
"RYDYM WEDI EI GAEL! Fy nghyd-Americanwyr, dros yr oriau diwethaf, mae Lluoedd Milwrol yr Unol Daleithiau wedi cynnal un o'r Ymgyrchoedd Chwilio ac Achub mwyaf beiddgar yn hanes yr Unol Daleithiau," meddai.
Fe aeth ymlaen i ddweud bod yr aelod criw coll, "Cyrnol uchel ei barch" ... a oedd "y tu ôl i linellau'r gelyn ym mynyddoedd peryglus Iran, yn cael ei hela gan ein gelynion" ond bod lluoedd eraill yr Unol Daleithiau "yn monitro ei leoliad 24 awr y dydd".
Ddydd Gwener, roedd Iran wedi cynnig gwobr ariannol o tua £50,000 ($66,000) i'w ddinasyddion am ddarganfod yr aelod yn "fyw".
Cafodd pump o bobl eu lladd yn ne-orllewin y wlad yn ystod yr ymdrech achub dros nos, yn ôl cyfryngau Iran.