Archesgob Caergaint yn gweddïo am heddwch byd-eang, wrth iddi wneud ei phregeth Pasg cyntaf
Mae Archesgob Caergaint, y Fonesig Sarah Mullally, wedi gwneud ei phregeth Pasg cyntaf fel y fenyw gyntaf i arwain Eglwys Lloegr.
Yn ei phregeth yng Nghadeirlan Caergaint ar Sul y Pasg, fe wnaeth y Fonesig Sarah alw am ddod â'r "trais a'r dinistr" yn y Dwyrain Canol i ben.
Daw ei galwad wrth i'r rhyfel, rhwng America ac Israel yn erbyn Iran a ddechreuodd ym mis Chwefror, rygnu ymlaen am chweched wythnos.
Hyd yma mae'r gwrthdaro wedi lladd miloedd o bobl yn y Dwyrain Canol, ac mae effeithiau'r rhyfel i'w teimlo'n fyd eang gyda phrisiau tanwydd yn codi wrth i Gulfor Hormuz - un o lwybrau llongau masnach mwyaf pwysig y byd - barhau ar gau.
Fe wnaeth y Fonesig Sarah weddïo y bydd "pobl y rhanbarth yn derbyn yr heddwch, y cyfiawnder a'r rhyddid y maen nhw'n hiraethu amdanyn nhw".
Dywedodd wrth gynulleidfa’r gadeirlan: "Yr wythnos hon, mae ein gweddïau wedi troi tuag at y tir lle cafodd Iesu ei groeshoelio ac atgyfodi.
"Heddiw, wrth i ni neidio gyda llawenydd bod Crist wedi atgyfodi, gadewch i ni weddïo a galw gyda brys newydd am ddod â'r trais a’r dinistr yn y Dwyrain Canol a’r Gwlff i ben.
"Boed i’n chwiorydd a’n brodyr Cristnogol wybod a dathlu gobaith y bedd gwag - ac i bob un o bobl y rhanbarth dderbyn yr heddwch, y cyfiawnder a'r rhyddid y maen nhw'n hiraethu amdanyn nhw."
Fe aeth y Fonesig Sarah ymlaen i weddïo dros bobl sy’n delio â heriau personol yn y byd, heriau sy'n cynnwys galar a diweithdra.
Dywedodd: "Efallai eich bod yma heddiw, yn sefyll yn eich fersiwn chi o’r tywyllwch, efallai gyda’ch calon eich hun wedi’i thorri…
"Os ydych wedi cael eich taro oddi ar eich llwybr gan salwch, galar, diweithdra neu unrhyw argyfwng dynol arall - gweddïaf eich bod yn gwybod bod Duw yn cerdded gyda chi trwy’r tywyllwch hwnnw."
Fe wnaeth y Fonesig Sarah, sy'n gyn bennaeth nyrsio dros Loegr, hefyd roi sylw arbennig i'r rhai sy'n gofalu am eraill.
Dywedodd: "Neithiwr, mewn ysbytai ledled y wlad, roedd nyrsys yn gofalu am y rhai oedd yn cael trafferth cysgu.
"Mewn hosbisau, bydd gofalwyr ac anwyliaid wedi dal llaw rhywun, gan roi gwybod iddyn nhw nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.
"Bydd rhieni wedi rhoi eu babanod i gysgu. Gwaith aros yw'r wylnos ofal hon - aros yn bresennol yn y tawelwch a'r tywyllwch."
Y Fonesig Sarah yw 106ed Archesgob Caergaint.