Tywysog a Thywysoges Cymru yn mynychu gwasanaeth Sul y Pasg yn Windsor
Mae Tywysog a Thywysoges Cymru wedi mynychu gwasanaeth traddodiadol y Pasg am y tro cyntaf ers i Catherine gael diagnosis o ganser.
Roedd William, Catherine a'u plant wedi ymuno â'r Brenin a'r Frenhines ddydd Sul ar gyfer gwasanaeth Sul y Pasg yng Nghapel San Siôr, Castell Windsor.
Cafodd William ei weld yn chwifio ei law at dorf o bobl oedd wedi ymgynnull y tu allan i'r castell wrth iddo ef a'i wraig arwain gorymdaith i'r gwasanaeth gyda'u plant, y Tywysog George, y Dywysoges Charlotte a'r Tywysog Louis.
Fe wnaeth y teulu fethu'r gwasanaeth y llynedd gan eu bod yn treulio’r penwythnos gyda’u plant yn Norfolk, ac roedden nhw'n absennol yn 2024 gan ei fod ychydig dros wythnos ar ôl i Catherine gyhoeddi ei bod wedi dechrau cwrs o gemotherapi ataliol.
Fe gyrhaeddodd Charles a Camilla mewn car o flaen y castell, gydag aelodau'r dorf yn gweiddi "Duw gadwo’r Brenin".
Nid oedd merched Andrew Mountbatten-Windsor, y Dywysoges Beatrice a'r Dywysoges Eugenie, yn bresennol, ar ôl cael cais i wneud cynlluniau eraill.
Y llynedd fe ymunodd cyn-Ddug Efrog a'i gyn-wraig Sarah Ferguson â Charles a Camilla yng ngwasanaeth Sul y Pasg.
Ers hynny, mae Andrew wedi colli ei Ddugiaeth a'i hawl i fod yn dywysog oherwydd ei gysylltiad â'r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Cafodd Andrew ei arestio'n ddiweddarach ym mis Chwefror ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Fe ymunodd Beatrice ac Eugenie, sydd wedi cadw eu teitlau fel tywysogesau, â'r teulu brenhinol ar gyfer y Nadolig yn Sandringham ym mis Rhagfyr.
Y gred yw y byddan nhw'n cymryd rhan mewn dathliadau teuluol eto yn y dyfodol.
Roedd y Dywysoges Frenhinol a Dug Caeredin hefyd yn bresennol.