Gwylwyr y Glannau yn helpu i achub 20 o wersyllwyr ar Ynys Môn
Mae Gwylwyr y Glannau wedi helpu i achub 20 o wersyllwyr rhag y llanw ar draeth ar Ynys Môn brynhawn Sadwrn.
Dywedodd Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Rhosneigr eu bod wedi cael eu galw i ardal Porth Trecastell ger Rhosneigr i wirio lles a diogelwch 20 o bobl a oedd yn gwersylla mewn bae bychan.
Yn ôl y tîm achub, doedd y gwersyllwyr ddim yn "ymwybodol o'r peryglon posib" o gael eu torri i ffwrdd gan y llanw a oedd yn dod i mewn i'r lan, nag o'r rhybudd oren am wyntoedd cryfion oedd yn wynebu'r ardal yn ddiweddarach.
Wrth i'r timau achub gyrraedd y lleoliad, roedd y llanw bron wedi rhwystro'r gwersyllwyr rhag gadael.
"Pan gyrhaeddodd y timau’r lleoliad, sylwyd yn gyflym fod y llanw’n agosáu at eu unig ffordd i fynd i mewn ac allan o’r cove i ddiogelwch, a chysylltwyd â’r grŵp ar unwaith i roi cyngor iddyn nhw am eu sefyllfa a’r rhybuddion tywydd," meddai llefarydd ar ran Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Rhosneigr.
"Yn ffodus, fe wnaeth pawb dderbyn ein cyngor a phenderfynwyd gadael y bae tan ddiwrnod gwell pan fyddai’r tywydd yn fwy llonydd."
Daw'r ymgyrch achub wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd oren am wynt i'r gogledd-orllewin dros benwythnos y Pasg.
Bydd y rhybudd - a ddaeth i rym am 19.00 ddydd Sadwrn ac a fydd yn parhau tan 03.00 fore Sul - yn effeithio ar siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.