Un o bentrefi mwyaf adnabyddus Cymru yn dathlu canmlwyddiant

Un o bentrefi mwyaf adnabyddus Cymru yn dathlu canmlwyddiant

Mae un o bentrefi enwocaf Cymru yn dathlu 100 mlynedd ers i'r cerrig a'r briciau cyntaf gael eu gosod, gan greu atyniad sydd wedi denu ymwelwyr o bedwar ban byd.

Mae Portmeirion, sy'n enwog am bensaernïaeth sy'n ymdebygu fwy fel pentref ar Riviera'r Eidal na phentref traddodiadol fyddai'n nodweddiadol o weddill y pentrefi ar arfordir Cymru, yn dathlu ei ganmlwyddiant y Pasg hwn.

Creadigaeth y pensaer Syr Clough Williams-Ellis yw Portmeirion a gafodd ei ddylunio a’i adeiladu ganddo rhwng 1925 a 1975.

Mae'r pentref yn gymysgedd eclectig o arddulliau pensaernïol sydd wedi'u hail-bwrpasu i greu amrywiaeth o adeiladau ar benrhyn bychain ger Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd.

Yn ogystal â bod yn atyniad i ymwelwyr, mae Portmeirion wedi bod yn lleoliad eiconig ar gyfer cynyrchiadau a chyfresi teledu, gyda chyfres ffuglen-wyddonol The Prisoner yn ystod yr 1960au o bosib y rhaglen fyddai'r mwyafrif yn ei chysylltu â Phortmeirion.

Hyd yn oed 60 mlynedd yn dilyn cyfres The Prisoner, mae poblogrwydd Portmeirion yn denu tua 250,000 o bobl bob blwyddyn, ac yn gyflogwr pwysig yn yr ardal - yn cyflogi tua 200 o staff llawn amser, ac yn cyflogi mwy na 270 yn ystod tymor yr haf. 

Dywedodd rheolwr lleoliad Portmeirion, Meurig Jones, fod 90% o'r staff yn byw llai nag 20 milltir i ffwrdd o'r pentref a bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r Gymraeg dros unrhyw iaith arall yn y pentref.

Mae'r pentref yn cynnwys tai gwyliau, Gwesty Portmeirion, Gwesty Castell Deudraeth, a nifer o fwytai a siopau amrywiol, ac yn cynnig gwasanaeth ar gyfer digwyddiadau a phriodasau.

Mae cyfres o gyngherddau a digwyddiadau wedi'u cynllunio ar gyfer yr haf fel rhan o ddathliadau'r canmlwyddiant, gyda Syr Bryn Terfel, Squeeze, Jools Holland a Bwncath i gyd yn rhan o'r arlwy.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.