Newyddion S4C

'Ofnadwy': Cysylltiad y we yn Llandudno yn cael effaith ar fusnesau

Siopa Llandudno

Mae perchnogion busnes yn Llandudno yn dweud fod y cysylltiad y we ‘ofnadwy’ yn y dref yn cael effaith negyddol ar eu busnesau.

Mae amcangyfrif bod 200,000 o ymwelwyr wedi heidio i Landudno dros benwythnos gŵyl y banc, gan wanhau’r cysylltiad rhyngrwyd ymhellach.

Er bod y cyngor yn dweud eu bod yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem, mae perchnogion busnesau yn dweud fod y broblem yn waeth gan fod pobl yn talu ar eu ffôn.

Adroddodd perchnogion siopau eraill fod cwsmeriaid yn gorfod gadael eu siop yn gyson wrth geisio cael gwasanaeth rhyngrwyd neu ffôn.

‘Hunllef’

Kelly Dykes yw rheolwr Taylor’s Café Bar ar Lloyd Street.

“Mae’r rhyngrwyd yn ofnadwy,” meddai.

“Mae gan lawer o fusnesau Wi-Fi, ond mae’n dal i effeithio ar bobl, yn enwedig pobl sy’n dod ar wyliau ac yn ceisio siopa o gwmpas Llandudno, ac ni allent gael signal o gwbl oni bai eu bod yn dod i mewn i siop a chysylltu efo’r Wi-Fi.”

“Mae’n dipyn o hunllef,” ychwanegodd.

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards fod y cyngor yn gweithio i ddatrys y mater, gan egluro eu bod mewn trafodaethau gyda darparwr 5G amlwg.

Dywedodd y Cynghorydd Edwards fod Conwy yn gweithio gyda'r cwmni Freshwave ynglŷn â'r posibilrwydd o gael 5G yn Llandudno a Bae Colwyn, ond nid yw'r cyngor wedi dod o hyd i ateb i'r broblem eto.

“Mae pobl yn cwyno am ffonau hefyd” meddai Kelly Dykes, “dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gallu ffonio," meddai.

“Maen nhw'n dweud bod 4G a 5G, ond dydy o ddim yn gweithio… dydy data symudol ddim yn gweithio o gwbl."

Image
Taylor's Cafe, Llandudno

‘Problem fawr’

Mae Mandy Evans wedi bod yn berchennog ar y Sweet Emporium ar Stryd Mostyn ers 12 mlynedd, ac mae’n dweud fod y diffyg signal ffôn wedi achosi problemau iddi hi a'i chwsmeriaid.

“Dydy hi ddim yn bosib i ni gael negeseuon na galwadau ffôn ar ein ffonau oni bai ein bod ni’n mynd allan, a hyd yn oed bryd hynny dydy o ddim yn dda iawn,” meddai.

“Gall gostio arian i fusnesau.”

Dywedodd fod rhai o’i chwsmeriaid wedi cael trafferth cysylltu gyda’u partneriaid i ddod i’w nôl wedi diwrnod o siopa.

“Mae’n broblem fawr,” meddai.

Dywedodd un o breswylwyr Llandrillo-yn-Rhos nad yw’n ymweld â stryd fawr Llandudno mwyach oherwydd y signal ffôn gwael.

“Mae’n ofnadwy. Dros y pum mlynedd diwethaf, wrth fynd i Landudno, mae’r signal wedi gwaethygu.”

Image
The Sweet Emporium

‘Effeithio ar fusnesau’

Kevin Ward yw perchennog The Great British Cheese Company ar y pier.

Esboniodd fod angen gwneud mwy i wella’r rhyngrwyd yn Llandudno gan fod llawer o bobl bellach yn gwneud taliadau electronig ar eu ffonau.

“Nid yw’r cysylltiad yn dda ar y pier,” meddai.

“Mae fy mheiriannau cerdyn yn gyfredol. Gallant chwilio’r holl rwydweithiau, felly maen nhw’n gweithio bron drwy’r amser.”

Ond dywedodd ei fod wedi cael mwy o drafferth na’r arfer yn ystod yr extravaganza Fictorianaidd oedd ymlaen bryd hynny, gan fod mwy o bobl o gwmpas.

“Roedd y peiriannau yn cymryd dau i dri thro, ac oni bai eu bod yn rhai newydd, ni fydden nhw’n gweithio o gwbl," meddai.

Ychwanegodd: “Bydd yn effeithio ar fusnesau os mai dim ond arian parod sydd gan bobl oherwydd ers COVID nid yw pawb yn cario arian parod.”

Image
The Great British Cheese Company

Dywedodd y cynghorydd, Louise Emery o Landudno, fod nifer o geisiadau cynllunio wedi’u cyflwyno ar gyfer mastiau ffôn, fel ar Stryd yr Adeiladwr a Ffordd Santes Fair, ond nad oeddent wedi bod yn llwyddiannus.

“Mae’n hen broblem, mor hen â’r geifr yn bwyta pethau allan o erddi pobl,” meddai.

Yn 2022, fe osododd y cyngor system Wi-Fi a oedd yn galluogi pobl i fewngofnodi a’i ddefnyddio ar Stryd Mostyn.

Ond dywedodd y Cynghorydd Emery nad oedd y cynllun Wi-Fi wedi datrys y broblem yn llwyr.

“Dros y blynyddoedd, mae’r cyngor wedi ceisio datrys y broblem. Maen nhw wedi gosod y system Wi-Fi honno ar Stryd Mostyn lle gallwch chi fewngofnodi, ond ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny. Nid yw’n rhy hawdd ei ddilyn,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.