'Do'n i ddim isho 'Dolig': Dechrau newydd i fam o Gonwy ar ôl strôc

'Do'n i ddim isho 'Dolig': Dechrau newydd i fam o Gonwy ar ôl strôc

"Pan geshi’r strôc o’dd o’n mis Medi, ag o’n i’n rili aware o’r ffaith o’dd ‘Dolig rownd y cornel."

Yn ôl ystadegau gan y Gymdeithas Strôc mae 46% o ddioddefwyr yn teimlo'n negyddol adeg y Nadolig oherwydd effeithiau strôc.

Roedd hynny'n sicr yn wir am Ruth Jones, mam 40 oed o Gonwy. Fe wnaeth ei byd wedi newid yn llwyr ym mis Medi 2021 pan ddioddefodd strôc yn ei chartref.

Cododd un bore a gweld bod hanner ei hwyneb wedi gollwng, ac roedd yn gwybod yn syth beth oedd wedi digwydd.

"Edrychais yn y drych ac roeddwn i'n gwybod yn syth mai strôc oedd o," meddai wrth Newyddion S4C.

"Roeddwn i'n gwybod sut i adnabod o, a rŵan roedd o'n digwydd i mi."

Fe dderbyniodd triniaeth thrombolysis wnaeth achub ei bywyd, ond roedd hi wedi dychwelyd adref "mewn corff nad oeddwn yn ei adnabod bellach".

Y peth olaf yr oedd hi eisiau ei wneud oedd coginio cinio Dolig a wynebu her gweithgareddau'r ŵyl gyda’i theulu, gan ei gadael yn teimlo nad oedd hi "isho Dolig" o gwbl.

"A cyn y strôc o’n i rywun mor organised o’n i’n cael bob peth yn barod, do'n i’m yn gallu neud hynna tro ‘ma," meddai.

"A dwi’n cofio jyst meddwl dwi’m isho ‘Dolig, dwi ddim yn teimlo’n festive o gwbl, dwi rili ddim isho, nai jyst isda ‘na, I’ll ignore it I’ll be in ‘Dolig denial ti’n gwybod?"

Image
Ruth Jones
Roedd hanner wyneb Ruth Jones wedi gollwng.

'Rili anodd'

Ers gwahanu oddi wrth ei gŵr mae Ruth wedi gwneud bob dim ei hun adeg y Nadolig.

O brynu anrhegion, coginio cinio Nadolig a threfnu gweithgareddau, roedd Ruth wrth ei bodd gyda digwyddiadau'r ŵyl.

Ond gyda'r strôc yn effeithio ar ei gallu i symud a'i lefelau egni, roedd o'n "rili anodd".

"O’n i ‘di blino, o’dd rhaid i fi coginio’r cinio ‘Dolig y diwrnod cynt, rhoid o yn y microwave diwrnod nesa’," meddai.

"It wasn’t great ond ti’n gwybod o’dd o’n ‘Dolig cinio.

"Doeddwn i methu mynd allan a siopio fel arfer, roeddwn i goro prynu bob dim online.

"O'n i'n meddwl 'y mwya' dwi'n gwario, gwell bydd y 'Dolig i'r genod."

Un peth sydd dal yn sefyll allan iddi o'r diwrnod hwnnw pedair blynedd yn ôl oedd ei merch yn gofyn iddi fynd â hi allan i ddefnyddio ei rollerskates newydd.

"O’dd o’n anodd pan gath hogan bach fi rollerskates ag o’dd hi’n gofyn ‘ti’n gallu mynd â fi allan efo rollerskates?’ a do'n i ddim.

"D’odd gynna fi ddim yr egni i fynd â nhw allan ti’n gwybod? A dwi’n cofio hynna."

Image
Ruth Jones
Erbyn hyn mae persbectif Ruth ar y Nadolig yn un hynod bositif.

Erbyn eleni mae agwedd Ruth at y Nadolig wedi newid yn llwyr.

Mae hi'n benderfynol o beidio gadael i effeithiau ei strôc effeithio arni bellach ac yn edrych ymlaen at y diwrnod mawr.

"Rŵan, ma’ petha’n hollol wahanol," meddai. "Wnaethon ni roid y coeden ‘Dolig i fyny mis diwetha'.

"Ma’ bob peth ‘di cael ei ordro, matching PJ’s, lights, bob peth ti’n gwybod? We’re going all out.

"Dwi dal wedi blino weithia’ ti’n gwybod, dwi dal goro’ paceio fy hun, ond it doesn’t matter.

"Dwi yma... ti’n gwybod? A ma’r genod yn hŷn wan so, ma’ nhw’n deall lot mwy tro ‘ma so, ma’ hynna’n well.

"So bring it on."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.