'Dwi'n gyffrous': Jeremiah Azu yn paratoi ar gyfer rownd gyn-derfynol y 100m
Mae’r Cymro Jeremiah Azu yn dweud ei fod yn anelu am fedal yn y 100 medr yng Ngemau'r Gymanwlad ddydd Mawrth ar ôl sicrhau ei le yn y rownd gyn-derfynol.
Fe enillodd Azu, 25 oed, ei ras ragbrofol ddydd Llun gydag amser o 10:10, gan olygu mai ef oedd y chweched cyflymaf yn y rowndiau rhagbrofol.
Wrth siarad ar ôl y ras, dywedodd y rhedwr o Gaerdydd: "O'dd e'n teimlo'n dda, ro'n i wedi ymlacio sef yr hyn rydych chi ei eisiau bob amser felly o'dd e'n dda i fynd allan yno o'r diwedd ar ôl gorfod aros, aros, aros ond bellach dwi wedi dechrau yn swyddogol.
"Dwi'n gyffrous, mae'n wych. I gael 'Cymru' wedi ei ysgrifennu ar y cit, mae'n arbennig iawn.
"Nes i ddechrau'n dda a nes i reoli o'r dechrau. Dydych chi ddim eisiau defnyddio gormod o egni, mae o fwy i wneud efo'r egni nerfus yma a'r cyffro felly ar y trac, rydych chi eisiau bod mor glyfar â phosib yn ystod y rowndiau.
"Roedd heddiw i gyd am gymhwyso ar gyfer y rownd nesaf a chael lle yn y ras fory. Mae yna bendant fwy yn y tanc, ond i fi, dydy amser ddim yn bwysig, mae dod yma a bod yn gystadleuol, cyrraedd y ffeinal a chael lle ar y podiwm."
Ychwanegodd Azu ei fod yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan Gymru.
"Mae cael y gefnogaeth yna o Gymru yn rhoi lot o hyder i chi, lot o gyffro, mae'n rhoi'r hwb ychwanegol a dwi'n meddwl dyna'n union ydych chi ei angen ar y lefel yma," meddai.
"Mae pethau yn gallu bod mor agos yn y ras, ac i fi, mae cael y gefnogaeth yna yn rhoi'r hwb ychwanegol yna i fi ar y trac."
Azu yw'r Cymro cyntaf erioed i redeg 100m o dan 10 eiliad, ac fe enillodd fedal efydd gyda Thîm Prydain yn y ras gyfnewid yng Ngemau Olympaidd Paris yn 2024.
Ef hefyd oedd Pencampwr Dan Do'r Byd 2025 yn y 60 metr, ar ôl ennill y fedal aur yn Nanjing, Tsieina, gydag amser o 6.49 eiliad.