Adroddiadau bod bachgen 13 oed o'r DU wedi marw ar ôl cael ei drywanu ym Mhortiwgal

24/12/2025
Alfie Hallett

Mae bachgen 13 oed o'r Deyrnas Unedig wedi marw ar ôl cael ei drywanu ym Mhortiwgal, yn ôl adroddiadau.

Bu farw Alfie Hallett, sydd yn Brydeiniwr yn ôl y wasg leol yn Tomar, Portiwgal.

Dywedodd heddlu yn y wlad eu bod yn ymchwilio i farwolaeth y bachgen yn ei arddegau

Ychwanegodd y llu bod yr ymosodwr honedig yn gyn-bartner mam y bachgen 13 oed.

Fe gafodd y fam "ei darganfod gan yr awdurdodau" a'i bod yr ymosodwr honedig "wedi ymosod arni".

Cafodd ei chludo i'r ysbyty o ganlyniad i'w hanafiadau.

Mae clwb pêl-fasged Alfie, Sport Club Operario de Cem Soldos wedi rhoi teyrnged iddo.

Mewn neges ar Facebook dywedodd y clwb: "Mae ein hathletwr Alfie wedi marw heddiw yn 13 oed.

"Chwaraeodd ei gêm olaf dydd Sadwrn, a chwaraeodd mor dda fel petai'n gwybod mai dyna oedd ei gêm olaf, ond ni allwn wedi dychmygu hynny.

"Hoffwn ddweud faint rydym yn dy garu a bod ti myn di fod yn ein calonnau am byth."

Mewn datganiad dywedodd yr heddlu bod yr "ymosodwr honedig a'r bachgen 13 oed wedi dioddef anafiadau gan arf miniog.

"Bu farw'r bachgen yn y fan a'r lle."

Ychwanegodd yr heddlu bod swyddogion wedi ymateb i'r digwyddiad yn ninas Tomar ar ôl derbyn rhybudd o "sefyllfa camdriniaeth ddomestig".

Roedd oglau cryf o nwy yn y tŷ lle be farw'r bachgen, ac roedd "ffrwydrad wnaeth anafu un o swyddogion y llu," meddai'r heddlu.

Mae'r ymosodwr honedig wedi treulio cyfnod yn y carchar am lofruddiaeth waethygedig (aggravated homicide) ac roedd digwyddiadau o achosion camdriniaeth ddomestig wedi digwydd yn 2022 a 2023.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod "mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau lleol ar ôl digwyddiad ym Mhortiwgal, ac yn barod i roi cymorth".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.