Nadolig cyntaf tu ôl i’r bar i ddwy fenyw ifanc

Nadolig cyntaf tu ôl i’r bar i ddwy fenyw ifanc

Ym mis Ebrill 2025, cymerodd Mali a Beca James, chwiorydd o Bontarfynach, awenau tafarn yr Halfway Inn yn Pisgah, Ceredigion.

Ar ôl ymgymryd â’r her, maent yn edrych nôl ar eu blwyddyn gyntaf wrth y llyw.

Mae Mali, 20 oed a Beca, 23 yn edrych ymlaen at eu Nadolig a Blwyddyn Newydd gyntaf yn rheoli'r dafarn.

“Daeth Ann a Stuart (cyn berchnogion) lan ato ni yn Rhagfyr a gofyn a bydden ni ishe cymryd dros y pub a symudon ni mewn ym mis Ebrill” 

“Ni wedi setlo nawr ond oedd sawl her dros yr Haf” meddai Beca wrth Newyddion S4C.

“Pethe bach hefyd chi ffili helpu, pethau’n torri, odd dim da ni ddŵr am rai diwrnodau felly odd rhaid i ni gau, y ffwrn yn chwarae lan ond ma’ fe i gyd yn rhan o redeg y dafarn.”

Ymchwanegodd Mali fod “popeth yn wahanol, pethau fel tynnu peint doeddwn i heb wneud tan fis Ebrill.”

Ar ôl gweithio mewn caffi ym Mhontarfynach am sawl blwyddyn, mae’r ddwy yn teimlo fod rhedeg tafarn yn wahanol.

“Mae rhaid fi coginio lasagne mwy na be chi’n gallu meddwl amdano a cyris” dywedodd Beca.

Ychwanegodd ei bod yn “disgwyl mlaen i gael pythefnos bant yn Ionawr o wneud dim byd ac ailddechrau ar y 23ain o Ionawr” 

Cymuned

Wrth siarad â Newyddion S4C, soniodd Mali am bwysigrwydd y gymuned i’r dafarn.

“Man y man i’r gymuned fyw yma ma nhw’n dod mewn bwti bod pob dydd, especially nawr dros y Nadolig, ma nhw yn supporto ni, ma nhw wedi bod yn absolutely amazing.

Yn ôl Beca “gallen ni heb di neud e hebddyn nhw [y gymuned], mae nhw wedi bod mor dda i ni a fel teulu i ni rili ac wedi croesawu ni.”

Mae'r ddwy yn edrych ymlaen at 2026 yn barod ac yn gobeithio cwblhau gwaith i baratoi tri llety ar gyfer rhedeg gwely a brecwast.

“Bydd hwnna yn sialens bach arall, i lanhau a chadw lan gyda lan stâr”

Ond nôl at y Nadolig, ac yn ôl Beca: “Yr amser yma fi di joio fwyaf achos ma pawb mor hapus” er iddi fod yn gyfnod “gwyllt,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.