Rhybudd tywydd melyn i rannau o Gymru ar ddydd Nadolig
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn i rannau o Gymru ar ddydd Nadolig, gan ddweud y gallai achosi toriadau trydan.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y bydd gwyntoedd chwyrn o'r dwyrain i'r gogledd-ddwyrain ar Ddydd Nadolig yn arwain at rywfaint o aflonyddwch.
Mae gwyntoedd o 55-65 mya yn bosib mewn rhai ardaloedd, meddai.
“O ystyried cyfeiriad anarferol y gwynt, gallai hyn arwain at rywfaint o darfu ar drafnidiaeth a chyflenwadau ynni,” medden nhw.
“Bydd tonnau mawr yn berygl ychwanegol ar rai arfordiroedd.”
Does dim disgwyl Nadolig gwyn eleni ond fe allai fod yn oer, gyda'r tymheredd yn syrthio i -4 gradd Celsiws mewn rhannau gwledig o Gymru.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
