Dyn 'annwyl' fuodd farw ger Porthmadog yn mynd i fod yn dad

mathew hardy.jpg

Roedd dyn "annwyl a hoffus" a fuodd farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Porthmadog nos Sadwrn yn mynd i fod yn dad meddai ei deulu.

Wrth roi teyrnged i Mathew Hardy, 34 oed o Bwllheli fe ddywedodd ei deulu ei fod "yng nghanol cyfnod mor gyffrous yn ei fywyd yn symud i dŷ newydd a merch fach ar y ffordd."

Roedd yn un o ddau ddyn a fuodd farw ar ffordd yr A487.

Fe fuodd Daniel Atkinson, 40 oed, o Flaenau Ffestiniog farw yn y fan a'r lle hefyd. Mae swyddogion arbenigol sydd wedi'u hyfforddi wedi cysylltu â'i deulu.

Dywedodd teulu Mathew fod "ein bywydau ni wedi cael eu chwalu gan y drychineb o golli Mathew mor frawychus o sydyn.

"Does dim geiriau all ddisgrifio’r boen a’r galar ‘da ni’n ei deimlo. Roedd yn fab, cariad, brawd a ffrind mor boblogaidd i nifer, a bydd yn gadael bwlch ofnadwy o dywyll ar ei ôl.

“Roedd Mathew yn hynod o annwyl a hoffus, ac yng nghanol cyfnod mor gyffrous yn ei fywyd yn symud i dŷ newydd a merch fach ar y ffordd.

“Hoffem ddiolch i bawb am eu caredigrwydd a geiriau o gysur ar amser mor heriol a thrist. Gofynnwn yn garedig am amser a phreifatrwydd i ddygymod hefo’r galar.”

Roedd ffordd yr A487 ar gau am bron i ddeuddydd wedi'r digwyddiad, cyn iddi ailagor brynhawn Llun.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi cyfeirio'r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Mae'r IOPC wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn y gyfeiriadaeth honno ac y byddan nhw'n ystyried pa gamau i'w cymryd nesaf.

Nid yw'r rheswm dros gyfeirio'r mater at yr IOPC wedi'i ddatgelu hyd yma.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad. Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu â nhw drwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 25001038987.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.