Y Brenin Charles i ddychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus ar ôl triniaeth canser
Fe fydd y Brenin Charles yn dychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus ar ôl ymateb yn bositif i driniaeth canser.
Mae'r Brenin wedi bod yn derbyn triniaeth ers dechrau Chwefror.
Cafodd y canser ei ddarganfod yn ystod ei driniaeth ddiweddar ar y prostad, ond nid yw wedi cael diagnosis canser y prostad.
Fe fydd y Brenin yn parhau i dderbyn triniaeth am ganser wrth iddo ddychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus.
Cyhoeddodd Palas Kensington ym mis Mawrth fod Tywysoges Cymru hefyd yn derbyn triniaeth am ganser.
Dywedodd y palas ei bod wedi dechrau derbyn triniaeth cemotherapi fis Chwefror.
Fe gafodd y canser ei ddarganfod mewn profion a gafodd eu gwneud ar ôl iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen ym mis Ionawr.
Nid yw'r math o ganser wedi cael ei ddatgelu.
Mae llun i nodi blwyddyn ers Coroni'r Brenin a'r Frenhines ar 6 Mai y llynedd wedi cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â'r cyhoeddiad ddydd Gwener.