Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Mae'n fore Mawrth, 23 Tachwedd a dyma olwg ar rai o brif benawdau'r bore.
£45m i helpu busnesau bach ar 'adeg dyngedfennol'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn gwerth £45m i fynd i'r afael â phrinder gweithwyr a helpu busnesau bach Cymru i dyfu dros fisoedd y gaeaf.
Dyma’r cyhoeddiad diweddaraf i ateb y galw yn sgil prinder gweithwyr yn y maes lletygarwch, gofal cymdeithasol a gyrwyr lori HGV.
O leiaf 45 o bobl wedi marw mewn gwrthdrawiad bws ym Mwlgaria - Al Jazeera
Mae o leiaf 45 o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad bws ym mhrifddinas Bwlgaria yn oriau man bore Mawrth.
Dywed y gwasanaethau brys nad yw'n glir ar hyn o bryd beth achosodd y gwrthdrawiad 26 milltir o Sofia.
Boris Johnson yn brwydro yn erbyn gwrthryfel mewnol ymysg ei blaid - The Sun
Bu'n rhaid i Boris Johnson frwydro yn erbyn gwrthryfel Ceidwadol nos Lun wrth i aelod o'r cabinet ei rybuddio i ostwng trethi er mwyn ei achub yn dilyn wythnosau o ddadlau mewnol.
Daw galwad yr Arglwydd Frost wedi i'r Prif Weinidog dderbyn beirniadaeth am gyflwyno araith am Peppa Pig i gynhadledd fusnes.
Dringo'r Wyddfa ddwywaith yr wythnos i fesur amodau'r gaeaf
Mae dyn o Eryri wedi dechrau ar ei daith flynyddol i gopa'r Wyddfa ddwywaith yr wythnos i fesur yr amodau dan draed.
Dros fisoedd y gaeaf, bydd Stephen Jones o gwmni Anelu Aim Higher yn cynnal asesiad o lefel yr eira a rhew, unrhyw luwchfeydd eira, cyflwr y rhew dan draed, yn ogystal â chyngor cyffredinol.
Paratoi ar gyfer cynghrair pêl-fasged 'cyntaf o'i bath' yng Nghymru
Bydd ysgolion o bob rhan o'r wlad yn teithio i Aberystwyth ddydd Mawrth i baratoi ar gyfer cynghrair pêl-fasged "cyntaf o'i bath" yng Nghymru.
Dyma fydd y digwyddiad cyntaf i nodi partneriaeth rhwng Pêl-fasged Cymru a'r sefydliad pêl-fasged ryngwladol, NBA.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.